Byddai codi Treth ar Werth i 20% yn “peryglu dyfodol” busnesau lletygarwch yng Nghymru

“Rhaid peidio tynnu’n ôl cyn bod y diwydiant yn barod i sefyll ar ei draed ei hun”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bwyty Byrgyr, Aberystwyth

Mae perchnogion busnes yng Nghymru wedi croesawu galwadau Plaid Cymru i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall.

Ym mis Gorffennaf, penderfynodd Llywodraeth Prydain ostwng Treth ar Werth ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.

Yn ôl Llion Pughe, un o berchnogion Bwyty Byrgyr yn Aberystwyth, byddai cynnal y rhyddhad Treth ar Werth am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i’w dyfodol ac yn rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.

“Mae 5% ddigon anodd ar hyn o bryd”

Mae Llion Pughe o’r farn bod y rhyddhad wedi bod yn “hollol allweddol” i gynhaliaeth y busnes dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae 5% ddigon anodd ar hyn o bryd i ddweud y gwir,” meddai.

“Does dim incwm yn dod i mewn felly pan wyt ti’n ychwanegu hynny ar ben dy gostau misol, mae’n golygu bod gwahaniaeth rhwng be rydyn ni wedi ei gael i helpu gan y Llywodraeth a be rydyn ni’n gorfod talu allan.

“Beth sydd wedi digwydd tan hyn, ydi bod y Llywodraeth wedi propio’r diwydiant i fyny, ond os ydyn nhw’n tynnu hynny’n ôl rŵan, mi eith yr holl ymdrech ariannol maen nhw wedi eu rhoi i mewn yn barod i wast.

“Maen nhw wedi mynd mor bell â hyn rhaid peidio tynnu’n ôl cyn bod y diwydiant yn barod i sefyll ar ei draed ei hun,” meddai.

“Peryglu dyfodol yr holl fusnesau”

Teimlai’r dyn busnes bod y diwydiant angen amser i sefydlogi yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd, cyn bod modd ail-edrych ar ddiwygio unrhyw gymorth ariannol.

“Hyd nes bod yr hyder a lefelau mynd allan i wario yn ôl fel oedden nhw cynt, gall busnesau ddim adfer y twll ariannol sydd wedi ei greu dros y cyfnod yma,” meddai.

Rhybuddiodd y byddai unrhyw newidiadau cynamserol yn “peryglu dyfodol yr holl fusnesau”.

“Mae’n rhaid pontio’r cyfnod yma nawr,” meddai,

“Os ydyn nhw’n torri’r bont yn fyr, mae pobl yn mynd i gwympo i’r dŵr yr union yr un fath, a gwastraffu’r holl gymorth sydd wedi bod tan rŵan.”

Mae’r dyn busnes yn rhagweld y bydd y sector lletygarwch yn rhan ganolog o ymdrech y Llywodraeth i adfer yr economi wedi’r pandemig, ac mae’n dweud bod rhaid ei ddiogelu yn y cyfamser.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.