Bwyty newydd Arabaidd yn agor

Agorir bwyty newydd Arabeg yn Aberystwyth gan gynnig bwyd AM DDIM ar ddydd Llun yr 8fed o Fawrth

Mererid
gan Mererid

Dydd Llun, 8fed o Fawrth, rhwng 3 a 8 o’r gloch, agorir bwyty newydd Arabeg yn Aberystwyth gan gynnig bwyd AM DDIM. Mae’r bwyd yma yn wahanol o ganlyniad i’r dull o gyflwyno a choginio.

Teulu o Syria sydd yn rhedeg y bwyty, ac mae Ghofran Hamza yn astudio gwleidyddiaeth a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Daeth i Aberystwyth ym Mai 2018, ar ôl i’r rhyfel orfodi iddi symud i Lebanon. Cafodd ei adleoli dan gynllun y Groes Goch. Ym mis Medi 2018, dechreuodd y rhaglen Prosiect Swper Syria, oedd yn codi arian i weithgareddau plant dros yr haf. Ehangodd y prosiect a daeth yn fenter gymunedol.

Llun gan Syrian Dinner Project

Y bwriad oedd agor yn Ionawr 2020, ond oherwydd COVID, nid oedd modd iddynt agor. Yn Ebrill, darparwyd gwasanaeth cludo i’r cartref, ond gyda’r cyfyngiadau, roedd pethau yn heriol.

Gyda help ei mam a’i brawd, Wael, mae Ghofran yn awyddus iawn i roi blas i Aberystwyth o’r amrywiaeth helaeth o fwyd o’r Dwyrain canol sydd ar gael.

Maent yn  cyflwyno bwyd o’r dwyrain canol fel Syria, Libanus, Twrceg a rhai o wledydd y Gwlff. Maent yn cynnig lapiadau Shawarma Falafel a Chyw Iâr am ddim gyda diod Ayran i oedolion dros 16 oed.

Bydd disgrifiad o’r siart bwyd ac alergedd ar gael ar Facebook.

Er mwyn cadw i ganllawiau COViD, dim ond 6 o bobl all aros y tu mewn i’r bwyty gan adael pellter 2 fetr gyda masgiau arno.

Cyfeiriad os ydych chi am fynychu yw 4 Northgate Street, Aberystwyth, SY232JS
I gael mwy o wybodaeth am y bwyd ewch i’w gwefan:
https://arabicflavouruk.wixsite.com/arabicflavourblasara
E-bostiwch neu ffoniwch:
Ghofran Hamza
Arabicflavour.uk@gmail.com
07480320688