Newidiadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i leihau niferoedd COVID

Dim ymweliadau ag ysbytai a dim booster heb apwyntiad

Mererid
gan Mererid
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Cafwyd dau gyhoeddiad mawr gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda heno:-

  • dim mwy o alw heibio heb apwyntiad am frechlyn booster am y tro- oni bai eich bod rhwng 12-15 mlwydd oed (h.y. rhaid cysylltu i gael apwyntiad neu aros i gael eich apwyntiad):
  • dim ymweliadau ag ysbytai o heddiw (27-10-2021) ymlaen.

Heddiw, roedd 464 o achosion yng Ngheredigion yn y 7 diwrnod diwethaf a 31 o achosion newydd.

Fel y dengys y graff yma gan Angharad Shaw, mae’r niferoedd wedi bod yn uchel iawn, ond wedi lleihau dros yr hanner tymor: –

Dyma’r datganiad llawn:-

Ar ôl ymateb hynod gadarnhaol a nifer sylweddol uwch na’r disgwyl o bobl yn dod am y brechlynnau atgyfnerthu COVID-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i oedi’r elfen ‘cerdded-mewn’ er mwyn cynnal diogelwch o amgylch y safle ac ar briffyrdd.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i gynnal yr elfen ‘cerdded-mewn’ ar gyfer plant 12-15 oed yn ystod yr wythnos hanner tymor.

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn gweithio ar y ffordd orau ymlaen i ddosbarthu’r brechlynnau atgyfnerthu i chi, ochr yn ochr â’r apwyntiadau.

Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu, cysylltwch â ni i gael apwyntiad. Diolchwn i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i hduhb.nhs.wales/healthcare/cov…