Busnes newydd yn agor drws yn Aber

Cynnyrch blasus ar gael yn Pwdin a Stordy – Siop y Bont

Enfys Medi
gan Enfys Medi
167858832_224244179484845

Yn dilyn sawl cyhoeddiad am ddrysau fydd yn aros ar gau ar y stryd fawr yn dilyn y cyfnod clo, braf iawn yw clywed am ddrws yn agor.

Agorodd siop Pwdin sy’n cynnwys Stordy – Siop y Bont ar ddydd Sadwrn 27 Mawrth yn 35a Eastgate Street, Aberystwyth.

Mae Pwdin yn arbenigo mewn cacennau moethus a Stordy – Siop y Bont  yn gwerthu cynnyrch anhygoel o Gymru, yn fwyd a diod. Dyma’r siop gyntaf yng Ngheredigion i werthu coffi ‘Fab Four’ sy’n fenter newydd gan bedwar o gyn chwaraewyr rygbi Cymru. Daeth James Hook, Lee Byrne a Shane Williams ar ymweliad arbennig ag Aberystwyth i ddathlu agoriad y siop newydd.

Tybed pwy sydd tu ôl i’r fenter newydd? Dyma fynd i holi mwy.

Cyflwynwch eich hunain i ni…

Rhiannon Harrison sy’ tu ôl i Pwdin a fi, Sarah Morgan sy’ tu ôl i Stordy – Siop Y Bont. Y ddwy ohonom ni yn famau i ddau o blant ac wedi cwrdd gan fod ein plant yn yr un dosbarth ysgol. Y ddwy ohonom ni yn hoffi cefnogi cynnyrch a busnesau Cymraeg ac wedi penderfynu dechrau menter newydd gyda’n gilydd i gyd weithio.

Pam mynd ati i agor busnes nawr?

Trwy’r cyfnod clo oedd Rhiannon wedi dechre ei busnes brownies gan ei bod hi bant ar gyfnod mamolaeth gan fod hi’n athrawes yn wreiddiol. Nath y busnes dyfu’n gyflym iawn ai cynnyrch yn boblogaidd tu hwnt. O’n ni wedi ymuno gyda’n busnes teuluol ni sef Siop Y Bont, Pontrhydfendigaid ger Tregaron a dechreuais roi llawer o amser mewn i chwilio busnesau bwyd a diod unigryw a gwahanol i ddod i’r ardal. Penderfynodd Rhiannon mae nawr odd yr amser i agor gan fod y busnes yn hedfan ac os na fyse hi’n neud e nawr roedd ofn arni byse hi byth yn rhoi tro arni. Nath hi ofyn i mi a fyse diddordeb gyda fi ymuno â hi yn y siop i ddod a’r cynnyrch hyfryd Cymraeg i Ganol Aberystwyth. Roeddwn wrth fy modd yn cytuno ac ar ôl llawer o nosweithiau hwyr agoron ni’r siop ddiwrnod cyn trodd hi’n 30!

Ych chi wedi wynebu anawsterau wrth agor yng nghanol cyfnod clo?

Rydym yn lwcus iawn fel busnesau bwyd a diod ein bod wedi gallu agor trwy’r cyfnod clo ond roedd dal rhai anawsterau a wynebwyd gyda chadw at y dulliau newydd, h.y. neud yn siŵr fod y rheolau yn cael ei dilyn, niferoedd y tu fewn i’r siop, masgiau, rhoi arwyddion a diheintydd a phrosesau saniteiddio a glanhau yn aml.

Beth yw’r peth mwyaf cyffrous am yr holl gynllun?

Y peth fwya’ cyffrous am agor yw cael rhedeg busnes ein hunain gyda chefnogaeth anhygoel y bobl leol a’r twristiaid sydd newydd ddechre dod i mewn. Erbyn hyn, mae cynnyrch Rhiannon yn gwerthu mas pob diwrnod ac mae cynnyrch Stordy yn hedfan! Ni’n falch o gael dod a rhywbeth gwahanol a newydd i’r ardal a gyda llawer o siopau’n cau rydym yn gobeithio mae ni fydd y siop gyntaf o lawer o gwmnïoedd bach annibynnol lleol o’r ardal yn agor ar strydoedd Aberystwyth.

Sut oeddech chi’n teimlo wrth i’r drysau agor ddydd Sadwrn?

Roedd agor penwythnos diwetha yn anhygoel o gyffrous. Roedd ciw hir tu fas i’r siop bron trwy’r dydd! Roeddwn yn lwcus bod Shane Williams, James Hook a Lee Byrne wedi gallu dod i gefnogi ni gan mae Pwdin yw’r siop gynta yng Ngheredigion i werthu’r coffi a ni fel Stordy yw’r siop gynta i gael gwerthu’r bagiau i bobl ddefnyddio adref. Mae’r bois i gyd yn gefnogol iawn ohonom ni a dwi’n gwybod bod Mike Phillips yn siomedig nag oedd e’n gallu hedfan o Dubai i fod gyda ni!

Beth yw eich gobeithion ar gyfer y misoedd nesaf?

Mae’r ddwy ohonom ni yn hynod gyffrous i symud y fenter newydd ymlaen gyda mwy o gynnyrch hyfryd gwahanol Pwdin i ddod yn y dyfodol a dwi am ddal ati i edrych am fusnesau gwahanol a newydd i gael llenwi hyd yn oed fwy o silffoedd!