Buddugoliaeth Wych i Stevie Williams yn Zagreb

Mis anhygoel i seiclwyr o ardal Aberystwyth yn cael ei goroni gan fuddugoliaeth Stevie Williams yn y “CRO Race” 2021 yng Nghroatia.

gan Gruffudd Huw
Stevie-Williams-ennill-Cro-Race-2021Hawlfraint: CRO Race / KL Photo @TeamBahrainVictorious

Stevie Williams yn ennill Cro Race 2021

Buddugoliaeth wych i Stevie Williams o Aberystwyth heddiw wrth iddo ennill y “CRO Race” yn rasio i dîm proffesiynol Bahrain Victorious. Gwelwyd ymdrech gampus gan Williams i ennill pumed cymal ddoe i fynd ar y blaen yn y dosbarthiad cyffredinol am y tro cyntaf yn y ras. Er gwaethaf y gystadleuaeth ffyrnig yn ei erbyn, lwyddodd Williams i orffen yn ail yn y cymal olaf yn Zagreb. Roedd hyn yn ddigon iddo orffen ar frig y dosbarthiad cyffredinol i sicrhau buddugoliaeth gyffredinol cyntaf ei yrfa.

Nid Williams oedd yr unig seiclwr o Aberystwyth i serennu yn y mis diwethaf. Yn gyntaf, gwelwyd Gruff Lewis yn cystadlu yn y Tour of Britain i dîm Ribble Weldtite. Arweiniodd y dihangiad yn ystod cymal 4 Tour of Britain drwy Aber ac enillodd y wib ganolig yn Borth – tipyn o gamp! Disgrifiodd y cymal ar y rhaglen Heno yn ddiweddar fel y diwrnod gorau o seiclo yn ei fywyd!

Ac yn olaf, gwelwyd Griff Lewis o Glarach yn ennill dwy ras o fewn wythnos! Daeth buddugoliaeth i Griff ym Mhencampwriaeth Rasys Ffordd Ieuenctid Cymru ar 19 Medi. Dim ond wythnos ynghynt llwyddodd i ennill ras Criterium Ieuenctid Cymru yn y Rhyl.

1 sylw

Maldwyn Pryse
Maldwyn Pryse

Gwych, newyddion da ac ymdrechion glew.

Mae’r sylwadau wedi cau.