Brecwast gyda Siôn Corn

Bwrlwm yr ŵyl yn cyrraedd Tafarn y Roosters ym Mhenrhyn-coch

gan Sion Corn

Dathlwyd hwyl yr ŵyl yn Nhafarn y Roosters, Penrhyn-coch, ddydd Sadwrn diwethaf pan alwodd ymwelydd pwysig iawn â’r lle. Y dyn ei hun – Siôn Corn!

Trefnwyd ‘Brecwast gyda Siôn Corn’ – digwyddiad i deuluoedd allu dod ynghyd, cael brecwast cartref, blasus, a chyfle i gwrdd â Siôn Corn. Roedd y lle dan ei sang o blant yn llawn cyffro, a rhieni a oedd yn falch o’r paneidiau diwaelod o goffi oedd ar gael iddynt! Roedd pob plentyn yn cael dewis ei frecwast ei hun, cyn cael y cyfle i gael sgwrs fach sydyn gyda Siôn Corn a derbyn anrheg ganddo.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac mae’r ail frecwast gyda Siôn Corn wedi ei drefnu ar gyfer bore Sadwrn, 18 Rhagfyr. Dywedodd un o’r partneriaid, Carwyn Jenkins: “Mae’n braf gallu cynnig digwyddiad o’r fath i’r gymuned leol, ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi dod i gefnogi.”

Tafarn leol ym Mhenrhyn-coch yw Tafarn y Roosters, ac mae’n gartref i Glwb Pêl-droed Penrhyn-coch. Gweinir bwyd cartref gan gogydd profiadol yn ogystal â phrydau bwyd i fynd adref gyda chi.

Roedd y digwyddiad ‘Brecwast gyda Siôn Corn’ yn ffordd ddelfrydol o orffen y flwyddyn cyn gwyliau’r Nadolig, gyda nifer fawr o blant yn dod ynghyd i fwynhau cyffro a bwrlwm yr ŵyl. Yn sicr, yn dilyn yr adborth cadarnhaol gan bawb a ddaeth, fe fydd digwyddiadau addas i blant a theuluoedd yn siŵr o fod ar y gorwel yn 2022.