Blas o Bwlgaria gan fam a mab – Sweet Vice with Poly

Caffi Bwlgaraidd ar Stryd y Porth Bach (Eastgate Street) yn cynnig amrywiaeth o fwyd

Mererid
gan Mererid
Sweet Vice with Poly

Mis Tachwedd llynedd, agorodd bwyty Bwlgariadd Aberystwyth yn Stryd y Porth Bach – Sweet Vice with Poly, gan gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael o fwyd o wledydd y byd yn Aberystwyth.

sweet vice

Mae Martin a’i fam Poly wedi byw yn Aberystwyth ers dros 3 mlynedd, ac wedi gweithio mewn bwytai gan gynnwys Glengower a Pysgoty. Yr ansicrwydd ynglŷn a chyflogaeth yn y cyfnod clo oedd un o’r symbyliad, yn ogystal â Poly yn gweld cyfle i ddarparu amrywiaeth o fwyd nad oedd ar gael yn lleol. Mae’r ddau yn wreiddiol o Fwlgaria, ac mae cymuned Fwlgaraidd glos yn Aberystwyth erbyn hyn. Mae Martin yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ei groesawy ac yn gobeithio cael cysylltiadau agosach o fewn y dref

Pa fath o fwyd sydd ar gael?

Mae modd archeb tecawê drwy dudalen Facebook neu Just Eat, ac erbyn hyn, mae modd eistedd yn y caffi hefyd. Maent yn gwerthu cynnyrch o Fwlgaria (neu o wledydd y Balkan).

Mae’r bwyd yn amrywio o

  • Kapama (bwyd sydd yn cael ei goginio yn araf gyda llawer o sbeis),
  • Kyufteta (bwrger Bwlgaraidd)
Kyufteta
  • Kebapcheta (mins a sbeis wedi ei goginio fel sosej)
Kebapcheta
  • Nadensita (math o sosej Bwlgaraidd)
  • Banichki (pastry tenau gyda llenwad)
  • bwyd gyda dylanwadau Groegaidd (musaka).

Ar gyfer y llysieuwyr, beth am

  • Sarmi (cabej wedi ei stwffio),
  • Stiw ffa,
  • Yahniya (stiw llysiau)
  • Selska Mandza
  • Musaka llysieuol
Selska Mandza

Eisiau pwdin?

  • Baklava (wrth gwrs)
  • Tikvenik (strwdl melys o Fwlgari)
  • Cacen gaws, cacen cnau coco siocled,

Mae cariad Martin, Marianna Qneva, bellach yn gweithio yn y busnes hefyd felly yn fusnes teuluol.

Cofiwch gefnogi busnes newydd yn y dref. Ffoniwch ar 01970 629911 neu dilynwch Facebook neu ebostiwch ar sweetvicewithpoly@gmail.com