Mis Tachwedd llynedd, agorodd bwyty Bwlgariadd Aberystwyth yn Stryd y Porth Bach – Sweet Vice with Poly, gan gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael o fwyd o wledydd y byd yn Aberystwyth.
Mae Martin a’i fam Poly wedi byw yn Aberystwyth ers dros 3 mlynedd, ac wedi gweithio mewn bwytai gan gynnwys Glengower a Pysgoty. Yr ansicrwydd ynglŷn a chyflogaeth yn y cyfnod clo oedd un o’r symbyliad, yn ogystal â Poly yn gweld cyfle i ddarparu amrywiaeth o fwyd nad oedd ar gael yn lleol. Mae’r ddau yn wreiddiol o Fwlgaria, ac mae cymuned Fwlgaraidd glos yn Aberystwyth erbyn hyn. Mae Martin yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ei groesawy ac yn gobeithio cael cysylltiadau agosach o fewn y dref
Pa fath o fwyd sydd ar gael?
Mae modd archeb tecawê drwy dudalen Facebook neu Just Eat, ac erbyn hyn, mae modd eistedd yn y caffi hefyd. Maent yn gwerthu cynnyrch o Fwlgaria (neu o wledydd y Balkan).
Mae’r bwyd yn amrywio o
- Kapama (bwyd sydd yn cael ei goginio yn araf gyda llawer o sbeis),
- Kyufteta (bwrger Bwlgaraidd)
- Kebapcheta (mins a sbeis wedi ei goginio fel sosej)
- Nadensita (math o sosej Bwlgaraidd)
- Banichki (pastry tenau gyda llenwad)
- bwyd gyda dylanwadau Groegaidd (musaka).
Ar gyfer y llysieuwyr, beth am
- Sarmi (cabej wedi ei stwffio),
- Stiw ffa,
- Yahniya (stiw llysiau)
- Selska Mandza
- Musaka llysieuol
Eisiau pwdin?
- Baklava (wrth gwrs)
- Tikvenik (strwdl melys o Fwlgari)
- Cacen gaws, cacen cnau coco siocled,
Mae cariad Martin, Marianna Qneva, bellach yn gweithio yn y busnes hefyd felly yn fusnes teuluol.
Cofiwch gefnogi busnes newydd yn y dref. Ffoniwch ar 01970 629911 neu dilynwch Facebook neu ebostiwch ar sweetvicewithpoly@gmail.com