Barcud a CAB yn cydweithio i arbed arian tenantiaid

Barcud a Cyngor ar Bopeth Ceredigion (CAB) yn cydweithio ar brosiect i helpu tenantiaid

Mae Cymdeithas Dai Barcud yn gweithio gyda Cyngor ar Bopeth Ceredigion (CAB) ar brosiect newydd cyffrous gyda’u tenantiaid yng Ngheredigion.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig ‘gwiriad iechyd ariannol’ am ddim, gyda chyngor a chefnogaeth i leihau biliau ynni cartref, arbed arian ar hanfodion eraill a chael mynediad at fudd-daliadau, grantiau a help arall i gynyddu incwm cartrefi.

Bydd cyngor a chefnogaeth am ddim ar gael i denantiaid ddefnyddio eu systemau gwresogi yn effeithiol, a chael cartref diogel a chynnes. Bydd y cyngor yn cynnwys darparu eitemau fel eithriwr drafft, bylbiau golau arbed ynni, siacedi silindr boeler ac eitemau arbed ynni cartref eraill yn rhad ac am ddim tra bo stociau yn ddigonol.

Maes Arthur
Maes Arthur, ger Clwb Pel-Droed Aberystwyth

Mae Barcud a Chyngor ar Bopeth yn cydweithio ar beilot Llywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd y cyngor.  Anogir pob tenant i gymryd rhan yn y cynllun hwn. Bydd pob manylion personol ac amgylchiadau yn cael eu trin yn gyfrinachol.

Os hoffech chi gymryd rhan neu geisio cefnogaeth yna cysylltwch â William Jones neu Bronwen Robb yng Nghyngor Ar Bopeth Ceredigion ar 01239 621974 neu enquiries@cabceredigion.org.

Atebir y ffôn rhwng 9-3 dydd Llun i Iau ac mae system neges ffôn ar weddill yr adegau, sydd yn cael ei adolygu rhwng ddydd Llun i ddydd Gwener.