Mae’r awdur lleol Simon Rodway wedi cyhoeddi nofel ffantasi gyfoes am ferch naw oed o ogledd Ceredigion. Er bod y genre hwn yn boblogaidd iawn yn y Saesneg, dim ond megis egino mae’r math yma o nofel yn y Gymraeg.
Meddai’r awdur, Simon Rodway, sy’n byw ym Mhenparcau:
“Ysgrifennais i stori Cadi Goch yn y lle cyntaf ar gyfer fy merch, Manon, oedd yn 7 oed ar y pryd. Roedd hi wedi’i hudo’n llwyr gan straeon Harry Potter, ac roeddwn i am greu rhywbeth yn yr un genre ond a oedd yn Gymreig, yn ogystal â bod yn Gymraeg. Mae chwedloniaeth Gymraeg yn gloddfa amhrisiadwy ar gyfer nofelau ffantasi, ac roedd y stori yn ffordd o agor cil y drws ar fyd cyfoethog iawn y chwedlau hyn, byd sy wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y tirlun o’n cwmpas.”
Mae’r nofel yn trafod themâu sy’n berthnasol i’r Gymru gyfoes – cau ysgol y pentref, y berthynas rhwng pobl leol a mewnfudwyr, gwleidyddiaeth iaith a lle lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg.
“Yn ogystal â defnyddio hen chwedlau i greu byd dychmygol, roeddwn i moyn gwreiddio’r stori yn y Gymru Gymraeg gyfoes, yn fwy penodol yng ngogledd Ceredigion, sy’n gartref i fi nawr ers dros chwarter canrif. Roeddwn i am ddangos nad yw’n baradwys o bell ffordd, gan gyffwrdd â’r wasgfa economaidd yng nghefn gwlad, a’r tensiynau ieithyddol a chymdeithasol yn sgil dyfodiad pobl ddi-Gymraeg i’n cymunedau ni.
“Hefyd, roeddwn i eisiau pwysleisio bod yna Gymry Cymraeg o wahanol grwpiau ethnig, a bod eu profiad o Gymreictod rywfaint yn wahanol. Mae hyn yn bwysig i fi, am fod fy mhlant innau o dras gymysg, ac nid ydynt yn groenwyn. Eto i gyd, does dim moeswers, fel y cyfryw: ymgais i bortreadu byd cymhleth yw’r nofel, lle mae cyfeillgarwch a pharodrwydd i wrando ar stori pobl eraill yn bwysig,” meddai Simon Rodway.
Mae’r nofel wedi derbyn canmoliaeth gan y bardd a’r awdur Eurig Salisbury a’r awdures Caryl Lewis, sy’n ei disgrifio fel “nofel hudol a hwyliog. Dydy’r ysgol ddim yn ddiflas i Cadi!”
“Roedd dewis dweud y stori o safbwynt merch yn un amlwg o ystyried y ffaith fy mod yn ysgrifennu ar gyfer fy merch fy hun. Roedd hi hefyd yn dipyn o her i fi, i geisio gweld y byd trwy ei llygaid hi,” meddai Simon.
Merch naw oed sy’n byw gyda’i thad a’i llysfam mewn pentref bach yng Ngheredigion yw Cadi Goch. Ar ôl i’w hysgol leol gau, mae’n cael cynnig lle yn Academi Gwyn ap Nudd, ysgol swynion yn Annwfn, Gwlad y Tylwyth Teg – ac mae hi’n gyffro i gyd! Ond wedyn mae’n dod yn amlwg y bydd y bwli Tom Jarvis yno hefyd. Yn waeth na hynny, mae Cadi a’i ffrindiau yn darganfod cynllwyn gan y frenhines greulon. All Cadi, Tractor a Mo ei rhwystro ac achub Gwlad y Tylwyth Teg?