Ardal Aberystwyth – clwb newydd i Aberystwyth!

Lansio clwb rotari newydd yn ardal Aberystwyth

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Yn ystod yr haf eleni, lansiwyd clwb newydd o’r enw Ardal Aberystwyth. Math gwahanol o glwb rotari ydi Ardal Aberystwyth. Mae’n rhoi cyfle i’w aelodau helpu cymunedau – yn lleol a ledled Cymru, yn ogystal â mwynhau cwmnïaeth a hwyl gyda phobl sydd â’r un meddylfryd, mewn awyrgylch anffurfiol.

Mae’r clwb wedi tyfu dros nifer o wythnosau i bron i ddeg ar hugain o aelodau ac mae’n dal i dyfu o wythnos i wythnos. Siaradodd Kerry Ferguson, llywydd y clwb, am ei brwdfrydedd am y clwb newydd:

“Rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o Ardal Aberystwyth, ac mae’n anrhydedd enfawr cael fy ethol fel llywydd cyntaf y clwb hefyd. Credaf fod gan Aberystwyth a’r cyffiniau gymuned wych ac y gall Ardal Aberystwyth weithio i gryfhau hynny drwy roi cymorth i’r gymuned ac i ddigwyddiadau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda grwpiau eraill yn yr ardal i wella’r ymdrechion cydweithredol.

“Mae Ardal Aberystwyth yn agored i bawb ymuno, a byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan!”

Mae Ardal Aberystwyth yn cyfarfod ddwywaith y mis, ac yn agored i aelodau o bob oed a phob cefndir. Mae’r clwb yn awyddus i sicrhau bod ystod eang o brofiadau a sectorau o fewn ei aelodaeth.

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad ac angen cefnogaeth gan Ardal Aberystwyth i stiwardio neu helpu mewn unrhyw ffordd arall – cysylltwch â ni! Rydym yn awyddus iawn i helpu. Mae ein digwyddiad cyntaf eisoes wedi digwydd, wrth i’r Race 4 Life ddod yn ôl i Aberystwyth ddydd Sul, 19 Medi.

Gellir cysylltu â Kerry drwy ebostio kerry@kerryferguson.co.uk.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.