Dod i adnabod rhai o drefi Ceredigion

Siaradwyr Newydd y Gymraeg

gan Medi James

Mae’r criw sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg dan nawdd project Un o’r Miliwn, Eisteddfod Ceredigion 2022 wedi bod yn dod i adnabod rhai o drefi’r Sir yn ystod yr Haf.

Mae’r cynllun cymorth dysgu wedi rhoi cyfle i bobl ddysgu Cymraeg mewn gwersi,– dan gyfyngiadau covid ac felly yn derbyn gwersi dros y we. Ond hefyd mae tîm o fentoriaid dros Geredigion wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd gyda’r dysgwyr yma o’u cartrefi trwy gyfrwng ‘zoom’

Mae’r teithiau cerdded diweddar wedi bod yn gyfle i’r dysgwyr ymarfer ei Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg ac ambell un yn cwrdd a’i mentor yn y cnawd am y tro cyntaf.

Yn y lluniau fel welir y siaradwyr newydd yma gyda’u mentoriaid yn cael hanes trefi Aberaeron gan Eryl Williams a Dilys Jones, Cei Newydd gan Morlais Davies ac Aberystwyth gyda Brendan Riley.

Un cyffyrddiad emosiynol oedd pan gwrddodd Anwen Pierce mentor, a’i siaradwr newydd Suzanne Arnold ar y prom yn Aberystwyth. Gallwch ddychmygu’r teimladau pan daeth y ddwy at ei gilydd. Wedi cwrdd yn gyson rhwng sgrin a sgrin am ddeuddeg mis, Anwen wedi gwrando, cynghori a chefnogi Suzanne wrth iddi hi ymdopi a dechrau dysgu siarad Cymraeg.

Rhwng Dwynwen Teifi ei thiwtor, Anwen ei chefnogwr mae Suzanne ymhell ar y daith i siarad Cymraeg yn rhugl. Beth sydd angen ydy i ni y siaradwyr ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg a pharhau felly gyda’r rhai sy’n dysgu. Fe fyddant yn llawer mwy parod i ymuno â gweithgareddau’r Eisteddfod ac i integreiddio i’r gymuned o’u cwmpas. Gofynnwn i chi roi y cyfleoedd yna iddynt.

Wrth i ni wynebu gaeaf arall yn edrych ymlaen yn obeithiol at Dregaron haf nesaf byddwn yn cynnal taith gerdded fisol ar bnawniau Sadwrn i bob cornel o Geredigion. Os ydych chi’n teimlo y gallech ein gwahodd i’ch cornel diddorol chi o’r Sir rhowch wybod.