Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dre Taliesin, Martin Davis. Mae Ysbryd Sabrina (Y Lolfa) yn stori ddirgelwch sy’n gweu diflaniad bachgen ifanc gyda hen hanes a chwedl. Lleolir y nofel ar lannau afon Hafren, afon y dduwies Sabrina, lle mae adleisiau Pengwern yr oesoedd a fu a theithi ysgeler y byd cyfoes yn dod ynghyd.
Meddai’r awdur, Martin Davis:
“Bwriad cynnwys elfennau o’r hen hanes oedd creu naws. Cyffyrddiadau ac adleisiau’n unig sydd yn Ysbryd Sabrina. Mae symbolaeth Canu Heledd yn rymus iawn ac roedd yr awydd i fynd i’r afael â hyn fel awdur yn gryf iawn, ond bu’n rhaid bod yn weddol gynnil wrth ei thrin rhag gwneud smonach ohoni.
Cyflwynwyd y nofel i ‘Ysbrydion Pengwern’. Pengwern oedd un o dri phrif lys Cymru’r Canol Oesoedd a chredir i’w leoliad fod ar ffin ddwyreiniol Powys fodern, yn agos at yr Amwythig. Cysylltir Canu Heledd â Phengwern gan fod yr englynion yn adrodd galargan Heledd, yr unig un o’i theulu i oroesi brwydr ym Mhengwern, llys ei brawd Cynddylan, Tywysog Powys. Llofruddiwyd ef a gweddill brodyr a chwiorydd Heledd yn y frwydr.
“Rwy’n gyfarwydd iawn â thref Amwythig erioed. Mae’n lle hardd a natur driphlith draphlith ei strydoedd yn cynnig lleoliad da ar gyfer nofel ddirgelwch, ac roedd pwysigrwydd y dref i hanes Cymru ar hyd y canrifoedd yn dipyn o demtasiwn i mi fel awdur. Mae’r gororau yn drwch o ysbrydion, nid lleiaf yn yr Amwythig, safle honedig Pengwern. Dwi wedi cael blas mawr ar grwydro Clawdd Offa dros y blynyddoedd – mae yna ‘ysbrydion’ rownd pob cornel.”
Digwyddiad tebyg i’r un sydd yn cael ei ddisgrifio ar ddechrau’r nofel oedd sbardun ei hysgrifennu.
“Roedd yr Amwythig fodern hefyd yn gyfle i gynnwys cymeriadau a digwyddiadau sydd efallai ychydig yn anarferol mewn nofelau Cymraeg. Rwy’n gwneud ymchwil wrth ysgrifennu pob nofel ac wrth edrych yn ôl ar yr ymchwil ar gyfer Ysbryd Sabrina gallaf weld testunau fel yr Hengerdd a Chlawdd Offa wrth gwrs, ond hefyd hanes Latfia a Venezuela, teithwyr yr oes newydd ac ymfudwyr a ffoaduriaid, ymysg pethau eraill. Clytwaith eang, fel Amwythig fodern!”
Mae Ysbryd Sabrina yn stori afaelgar am ymgais dynes ifanc i chwilio am ei brawd coll a thorri cwys iddi’i hun yn y byd sydd ohoni. Mae ei chwest yn ei dwyn i gysylltiad ag amryw o gymeriadau brith a phrofiadau tywyll. Wrth i fwy o hanes ei brawd coll ddod i’r fei, mae’n gorfod gwneud penderfyniadau mawr ynglŷn â’i dyfodol.
Mae Ysbryd Sabrina gan Martin Davies ar gael nawr (Y Lolfa, £8.99).
Mae modd darllen y bennod gyntaf yma.