Mae’r actores Gwyneth Keyworth o Aberystwyth yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt, wedi iddi serennu yng nghyfresi teledu poblogaidd fel Craith, Black Mirror, The Crown a Game of Thrones.
Ac ar gyferi ei phrosiect diweddaraf, mae’n chwarae’r prif gymeriad mewn cyfres ddrama gyfoes a gwahanol o’r enw Fflam, sydd i’w ddarlledu ar S4C fis nesaf.
Mewn sgwrs gyda BroAber360, cawn ddysgu mwy am ei chymeriad cymhleth yn y ddrama deledu, ei chydweithwyr drygionus a rhai o’r prosiectau cyffroes eraill sydd ganddi ar y gweill.
“Sialens ddiddorol”
Fflam yw’r cyntaf o fwrlwm o gyfresi “ffres a gafaelgar” fydd yn cael eu darlledu ar S4C dros y misoedd nesaf.
Mae’n dilyn bywyd Noni a’i chariad Deniz wrth iddyn nhw atgyweirio eu fferm. Er bod bywyd i weld yn fêl i gyd, mae’r cyfan yn cael ei fygwth, wrth i ysbryd ei gŵr Tim, a fu farw mewn tân erchyll, gael ei atgyfodi.
“Mae’r ddrama’n ymwneud lot â galar,” eglura’r actores, sy’n chwarae rhan Noni.
“Ac yn ymwneud â’r ffordd mae colli rhywun yn gallu effeithio’r ffordd mae person yn gwneud penderfyniadau – rhywbeth gall bawb uniaethu gydag.
Er bod modd iddi uniaethu gyda rhai o deimladau ei chymeriad, eglurai eu bod yn “hollol wahanol”.
“Dydw i ddim yn debyg iawn i Noni o’ gwbl!” meddai.
“Felly roedd e’n sialens ddiddorol – i drio ffeindio mas pam ei bod hi’n gwneud y pethau mae hi’n ei wneud – oherwydd lot o’r amser mae hi’n gwneud beth bynnag mae hi moen!”
“Rich plîs rydyn ni angen gweithio!”
Ymhlith y cast profiadol, mae Mali Ann Rees, Memet Ali Alabora, Pinar Ogun a Richard Harrington a dywedodd bod cyd-weithio gyda rhai o’r actorion am yr eildro wedi bod yn “brofiad hyfryd.”
“Roedd cael gweithio gyda Richard eto yn amazing, mae o gymaint o hwyl – ohyd yn gwneud jocs – i’r pwynt lle ti’n gorfod bod fel… Rich plîs rydyn ni angen gweithio!”
“Felly mae hynny’n help i wneud yn siŵr fod pethau ddim yn rhy drwm… ond os dydyn ni ddim yn ffilmio, mae Rich a fi jest yn chwerthin!”
“Mae Mali yn chwarae ffrind gorau i Noni,” eglurai, “ac oherwydd ein bod ni wedi gweithio hefo’n gilydd yn barod, roedd y berthynas yna’n really hawdd.
“Memet a Pinar – yn amlwg maen nhw’n amazing – ond hefyd a stori really diddorol ynglŷn â sut maen nhw wedi dod i Gymru a dysgu Cymraeg – roedd o’n set fach hyfryd.”
“Mae’n rhaid i ti wneud hyn – dyma ti’n dda ynddo fo!”
Er ei bod wedi ymddiddori mewn actio ers yn blentyn ifanc, dywedodd mai drwy grŵp perfformio cymunedol yn Aberystwyth datblygodd ei hyder.
“Roedd yna grŵp yn Bow Street – grŵp actio yn cael ei redeg yn Neuadd Rhydypennau gan Buddug Jones Davies,” meddai.
“Felly nes i ymuno yn fano ac roedd Buddug bob tro’n dweud- mae’n rhaid i ti wneud hyn – dyma ti’n dda ynddo fo!
“Roeddwn i’n dyslecsic” eglurai “ar roedd yr athrawon yn yr ysgol yn dweud mod i’n breuddwydio – doeddwn i ddim yn teimlo’n dda iawn yn fi’n hyn.
“Wrth fynd i weithgareddau actio roeddwn i’n gwybod – dyma lle dwi fod.
“Felly, pan roeddwn i tua phymtheg – roedd Buddug yn dweud mae Aberystwyth yn amazing ond os wyt ti eisiau bod yn actor – mae’n rhaid i ti fynd tu fas i Aberystwyth.
“Ar ôl iddi farw, oni’n teimlo – reit dyma be fyddai Buddug moen i mi wneud.
“Fyddwn i ddim yn actio nawr oni bai fod pobol fel Buddug Jones Davies a Richard Hull yng nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wedi magu fy hyder i.”
“Fedri ‘di ddim really actio yn dy lofft!”
Rhannodd yr actores ei siom o orfod gohirio tri prosiect cyffroes oherwydd y pandemig – un ohonynt yn Efrog Newydd.
“Mae hi wedi bod yn anodd tu hwnt,” meddai wrth drafod y flwyddyn ddiwethaf, “dwi wedi bod yn darllen lot o ddramâu… ond fedri di ddim really actio yn dy lofft!
“Gydag actio dwyt ti bron byth yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd ti’n gorfod bod yn resilient iawn,” meddai.
Fodd bynnag, mae ganddi ffilm newydd fydd yn cael ei ryddhau diwedd y flwyddyn ac – croesi bysedd – mae’n gobeithio cael cychwyn ffilmio ar gyfer brosiect arall ym mis Mawrth eleni.
“Mae cael gweithio ar hyn o bryd yn amazing,” meddai, “ond mae gorfod hunan ynysu heb y bobl ti’n caru – rhai methu gweld eu plant – yn anodd.
“Ond yn amlwg, beth sydd bwysicaf yw bod pawb yn cadw’n saff.”
Fflam, Nos Fercher, 10 Chwefror am 9.00