£10,000 i Eglwys Llanfihangel y Creuddyn

Ennill pleidlais Cyfeillion Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi

Mererid
gan Mererid

Cyhoeddwyd ar ddydd Llun, 27 o Fedi, fod criw o wirfoddolwyr wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am £10,000 tuag at welliannau i Eglwys Mihangel Sant (St Michael) Llanfihangel y Creuddyn.

Darparwyd y cyllid gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eglwysi.

Bydd yr arian yn helpu i dalu am atgyweiriadau twr a tho brys i’r eglwys Restredig Gradd II *.

Bydd yr atgyweiriadau yn sicrhau bod yr adeilad godidog ar ei draed am o leiaf 500 mlynedd arall ac yn parhau i fod yn lle diogel a chroesawgar i’r gymuned ac ymwelwyr.

Dywedodd y Trysorydd Rhian Davies

Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi ennill Pleidlais y Cyfeillion ac yn hynod ddiolchgar i Gyfeillion Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi am bleidleisio drosom ni.

Heb y wobr hon, byddem wedi gorfod lleihau cwmpas ein gwaith yn sylweddol. Bydd yr arian ychwanegol yn sicrhau y bydd yr holl waith angenrheidiol wedi’i gwblhau’n llawn ac yn sicrhau dyfodol yr eglwys nid yn unig fel addoldy, ond hefyd fel adeilad hanesyddol pwysig am flynyddoedd i ddod.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i’n heglwys hardd ar ôl cwblhau’r gwaith yn gynnar y flwyddyn nesaf. Diolch unwaith eto. Diolch yn fawr iawn!”

Llongyfarchiadau mawr i’r holl griw am eu gwaith. Fe fydd cymuned Llanfihangel y Creuddyn yn falch iawn fod y gwelliannau yn cael eu gwneud.