Mae Ysgol Penweddig yn paratoi i ailagor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi, wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drosglwyddo’r safle yn ôl i Gyngor Sir Ceredigion.
Mae safle’r ysgol yn un o ddau safle yn Ysbyty Enfys Aberystwyth sydd wedi bod ar gael ers mis Ebrill i dderbyn cleifion coronafeirws pe bai angen.
Ni chafodd y safle ei ddefnyddio, gan fod nifer yr achosion wedi aros yn is na’r disgwyl yng Ngheredigion.
“Rydyn ni wedi bod yn hynod falch o bawb a fu’n ymwneud â pharatoi’r cyfleuster hwn, a oedd wrth law i ddarparu capasiti ychwanegol pe bai ein GIG a’n cymunedau wedi bod ei angen. Mae hyn wedi dangos partneriaeth ar ei orau,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans.
“Byddwn yn cymryd pob mesur i sicrhau bod yr ysgol yn gallu derbyn disgyblion ac athrawon yn ddiogel ym mis Medi.”
Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn “ddiolchgar”
Dywed Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r cyngor, yr ysgol, Sodexo, contractwyr a’n staff ein hunain o sawl adran a wnaeth baratoi hyn ar adeg pan oedd gorfod defnyddio’r cyfleuster yn fygythiad gwirioneddol i’r GIG a’n cymunedau.
“Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’n cymunedau a ddilynodd gyfyngiadau’r llywodraeth ac sy’n parhau i ymarfer pellhau cymdeithasol i’n cadw’n ddiogel a chadw cyfraddau’r haint mor isel â phosibl.”
Bydd contractwyr adeiladu yn gweithio ar y safle i’w throi hi’n ôl mewn i safle ysgol yn ystod y tair wythnos nesaf.