Yr Ysgol Gymraeg yn ail – Carol yr Ŵyl

Mewn rhaglen arbennig yn dathlu 20 mlynedd o Carol yr Wyl – Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth yn ail

Mererid
gan Mererid

Gan nad oedd modd i’r ysgolion gymryd rhan yng nghystadleuaeth Carol yr Ŵyl eleni, penderfynodd S4C i gael cystadleuaeth i feirniadu’r garol orau o’r 20 mlynedd ddiwethaf. Gallwch wylio’r rhaglen eto o ddilyn y linc yma. Mae clip o’r enillwyr hefyd ar gael ar Facebook.

Roedd yn dipyn o waith i’r beirniaid, Mari Pritchard a Huw Foulkes, a daeth y canlynol i’r brig: –

  • Cyntaf – Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis
  • Ail – Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth
  • Trydydd – Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn

Gyda nifer o’r plant bellach yn yr Ysgol Uwchradd, un o unawdwyr y garol oedd Ioan Mabbutt, sydd wedi cael llwyddiant Eisteddfodol sylweddol ers hynny.

Cyfansoddwyd y gan yr athrawon Aled Morgan a Gareth James, y tro cyntaf iddynt gystadlu.

Dywedodd y Pennaeth Clive Williams:

Rydyn ni wrth ein bodd â llwyddiant yr ysgol yn y gystadleuaeth.

Roeddem i gyd yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer, heb sôn am ddod yn ail. Roedd hi’n gystadleuaeth dda iawn.

Ond rwy’n credu mai alaw hyfryd Mr Morgan a geiriau trawiadol Mr James, ynghyd â pherfformiad gwych y plant ac unawdydd arbennig Ioan a gyfrannodd at lwyddiant y garol.”