Gan nad oedd modd i’r ysgolion gymryd rhan yng nghystadleuaeth Carol yr Ŵyl eleni, penderfynodd S4C i gael cystadleuaeth i feirniadu’r garol orau o’r 20 mlynedd ddiwethaf. Gallwch wylio’r rhaglen eto o ddilyn y linc yma. Mae clip o’r enillwyr hefyd ar gael ar Facebook.
Roedd yn dipyn o waith i’r beirniaid, Mari Pritchard a Huw Foulkes, a daeth y canlynol i’r brig: –
- Cyntaf – Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis
- Ail – Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth
- Trydydd – Ysgol O. M. Edwards, Llanuwchllyn
Gyda nifer o’r plant bellach yn yr Ysgol Uwchradd, un o unawdwyr y garol oedd Ioan Mabbutt, sydd wedi cael llwyddiant Eisteddfodol sylweddol ers hynny.
Cyfansoddwyd y gan yr athrawon Aled Morgan a Gareth James, y tro cyntaf iddynt gystadlu.
Dywedodd y Pennaeth Clive Williams:
Rydyn ni wrth ein bodd â llwyddiant yr ysgol yn y gystadleuaeth.
Roeddem i gyd yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer, heb sôn am ddod yn ail. Roedd hi’n gystadleuaeth dda iawn.
Ond rwy’n credu mai alaw hyfryd Mr Morgan a geiriau trawiadol Mr James, ynghyd â pherfformiad gwych y plant ac unawdydd arbennig Ioan a gyfrannodd at lwyddiant y garol.”