Ysgol Filfeddygol cyntaf Cymru i agor yn Aberystwyth

“Pennod newydd bwysig a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Lansio Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd yn Aberystwyth – Llun Prifysgol Aberystwyth

Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth fydd y cyntaf o’i math yng Nghymru, a bydd yr ysgol yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2020.

Bydd y rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.

Bydd y datblygiad hefyd yn darparu cyfleodd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg tra yn Aberystwyth.

“Pennod newydd bwysig a chyffrous”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae heddiw’n ddechrau pennod newydd bwysig a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru.

“Mae amaeth a’i diwydiannau perthnasol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.

“Rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”

Yn ran o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth yn elwa o’r Ganolfan Addysg Filfeddygol newydd a fydd yn cael ei datblygu ar gampws Penglais.

Pum mlynedd yw hyd y cwrs – bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.

Croesawodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths y newyddion:

“Bydd yr Ysgol newydd yn darparu’r man dechrau perffaith i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i weithio yn y sector bwysig hon.

“Bydd yr addysg a fyddant yn ei dderbyn o fudd i’r economi wledig ehangach yn ogystal â’r diwydiant amaeth.”

Mae’r brifysgol wedi bod yn addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid ers 100 mlynedd, ac mae’r Athro Christiane Glossop yn gobeithio bydd yr Ysgol Wyddor Filfeddygol yn darparu canolbwynt i filfeddygaeth yng Nghymru.

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn adeiladu ar sylfaen gref y sefydliad academaidd llwyddiannus ac uchel ei barch”, meddai.

Yn ogystal â’r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth, bydd y myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr IBERS a chael profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol.