Ymosodiad ar ddyn yn Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am help wedi i ddyn gael anafiadau difrifol i’w ben. Cludwyd ef i’r ysbyty, ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn gorffwys ar sil ffenestr yn Heol y Bont, Aberystwyth neithiwr. Ymosodwyd arno, mae mewn ffordd wael ac mae’r heddlu angen eich help chi.

Daeth swyddogion o hyd i’r dyn 35 oed tua 9pm nos Sadwrn a chafodd ei gludo i’r ysbyty. Credir bod ei sefyllfa’n ddifrifol a throsglwyddwyd ef i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae’r heddlu eisiau siarad ag unrhyw dystion i’r digwyddiad ac maent yn arbennig o awyddus i siarad â grŵp o dri pherson (dau ddyn ac un fenyw) a welwyd ddiwethaf y tu allan i Dafarn y Llew Du, Bridge St ychydig cyn i’r dyn gael ei ddarganfod.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad hwn, neu a welodd y dyn a anafwyd yn eistedd ar y silff ffenestr gysylltu â swyddogion yn Aberystwyth, naill ai ar-lein, trwy e-bost yn: contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk neu drwy ffonio 101.

Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eu clyw neu â nam ar eich lleferydd, tecstiwch y rhif di-argyfwng ar 07811 311 908. Dyfynnwch gyfeirnod DP-20200104-291.

Anogir unrhyw un a oedd yn gyrru trwy’r ardal rhwng 8pm a 9pm ac sydd â lluniau tu allan i Dafarn y Llew Du, i gysylltu.