Ymestyn cynllun ‘dim cerbydau’ am dair wythnos arall yn Aberystwyth

“Diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn” yn Aberystwyth meddai Cynghorydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
BroAber360

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi bydd parthau diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion yn cael eu hymestyn am dair wythnos arall.

Ers Gorffennaf 13 mae strydoedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Cheinewydd wedi eu cau i gerbydau rhwng 11 y bore a 6 yr hwyr bob dydd er mwyn creu gofod lle gall pobol gerdded o gwmpas yn ddiogel.

“Diolchwn i drigolion Ceredigion am gadw at y rheoliadau ac am gadw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gymharol isel”, meddai llefarydd ar ran y Cyngor Sir.

‘Diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn’

Mae’r Cynghorydd Alun Williams sy’n cynrychioli ward Aberystwyth Bronglais ar Gyngor Sir Ceredigion wedi croesawu’r “diwylliant caffi Ewropeaidd go-iawn” sydd wedi ei danio yn Aberystwyth.

“Yn gyffredinol, tra bod llawer yn dioddef – mae masnachwyr lleol wedi ymateb yn gadarn i’r argyfwng.

“Mae masnachwyr bwyd … wedi ymateb yn dda, ac maen nhw wedi bod yn darparu gwasanaeth da iawn i bobol leol.”

Addasiadau

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu’r trefniadau newydd yn barhaus ac eisoes wedi gwneud newidadau yn Aberystwyth.

Mae’r cyngor wedi cael gwared â’r cyfyngiadau traffig trwodd yng nghyffiniau Heol y Castell a Maes Iago ac mae llefydd parcio ychwanegol, gan gynnwys rhai i’r anabl, wedi eu hychwanegu.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion fod parthau diogel mewn trefi eraill o fewn y sir yn cael eu hystyried ar raddfa lai.