2 wedi eu harestio wedi cyrch cyffuriau ym Mhenparcau

Gweithredwyd cyrch cyffuriau gan swyddogion Heddlu Dyfed Powys ym Mharc Dinas, Penparcau

Mererid
gan Mererid

Gweithredwyd cyrch cyffuriau ddydd Llun, 13eg o Orffennaf gan swyddogion Heddlu Dyfed Powys (uned ymateb) mewn tŷ ar stad Parc Dinas, Penparcau ar ôl pryderon gan y gymuned leol. Darganfuwyd llawer iawn o ganabis ac arian parod ac arestiwyd dau o bobl.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar y cyhoedd i’w helpu yn y frwydr yn erbyn cyffuriau.

Galwodd Fforwm Cymunedol Penparcau am fwy o adnoddau i ddelio gyda’r cynnydd mewn cyffuriau yn yr ardal, a phroblem benodol Llinellau Sirol neu “County Lines“.

Mae ‘Llinellau Sirol’ yn fater cenedlaethol sy’n dod yn fwy amlwg, lle mae grwpiau trosedd trefnedig o ardaloedd trefol fel Llundain, Lerpwl a Birmingham yn gosod plant a phobl agored i niwed rhyngddyn nhw eu hunain a’r perygl o gael eu darganfod drwy ddylanwadu a rhoi pwysau arnynt i gludo a gwerthu cyffuriau. Bydd ‘Rhedwyr’ yn cael eu hanfon ar draws ffiniau sirol i ardaloedd fel Llanelli, y Drenewydd a Hwlffordd i drosglwyddo a/neu werthu cyffuriau Dosbarth A ar ben arall y llinell.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ei ymrwymo i fynd i’r afael â’r delio mewn cyffuriau a’r trais sy’n gysylltiedig â’r gangiau hyn, ond ochr yn ochr â gorfodi’r gyfraith nod ‘Ymgyrch Guardian’ yw adnabod y bobl agored i niwed a allai cael eu cymell a’u gorfodi i gyflawni trosedd gan gangiau trefol, a rhoi mesurau mewn lle sy’n eu diogelu yn hytrach nac yn eu cosbi.

Gall rhywun fod yn agored i ddioddef cam-fanteisio gan grwpiau trosedd trefnedig am nifer o resymau, ond yn ddieithriad mae yna anghydbwysedd pŵer o blaid y rhai hynny sy’n cyflawni’r cam-fanteisio. Mae ffactorau’n cynnwys oed, rhywedd, gallu gwybyddol, neu arwahanrwydd cymdeithasol; fodd bynnag, ffactor cyson o ran camfanteisio llinellau sirol yw presenoldeb rhyw fath o gyfnewid rhwng y dioddefydd a’r troseddwr.

Yn gyfnewid am gyflawni tasg, mae’n bosibl y bydd y dioddefydd yn cael neu’n cael addewid o rywbeth y mae arnynt ei angen neu ei eisiau. Gallai hyn fod yn rhywbeth gweladwy fel arian, cyffuriau neu ddillad neu’n rhywbeth anweladwy fel amddiffyniad, statws, hoffter neu gyfeillgarwch tybiedig. Gall atal rhywbeth negyddol hefyd gyflawni’r angen am gyfnewid, gan olygu y gallai person ifanc neu oedolyn agored i niwed gyflawni gweithgarwch o ganlyniad i ofn trais neu ddial.

Meddai’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Shane Williams: “Ein blaenoriaeth bennaf yw diogelu pobl agored i niwed, ac mae hyn yn cynnwys plant, a all fod mor ifanc â 12 oed, a’r oedolion agored i niwed y mae gangiau trefol yn camfanteisio arnynt mewn modd mor ddidostur i’w cael i wneud eu gwaith brwnt. Yn y pen draw ein bwriad yw gwneud ardal Dyfed-Powys yn amgylchedd digroeso i grwpiau trosedd trefnedig, gan atal pob math o niwed a gysylltir gyda’r gangiau hyn.”

Mae’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd Williams yn parhau: “Gall unrhyw blentyn neu oedolyn agored i niwed gael ei effeithio gan hyn, ac mae’n bwysig cydnabod y gallai fod yn achos o gam-fanteisio hyd yn oed os yw’n ymddangos yn gydsyniol.

“Ein bwriad yw taflu goleuni ar y cam-fanteisio hyn, a thrwy gydweithio gydag amrediad eang o asiantaethau partner gan gynnwys awdurdodau lleol, asiantaethau trydydd sector, asiantaethau tai, gweithredwyr trenau a bysiau, adnabod cam-drin yn fwy buan fel y gallwn ymyrryd a chadw pobl agored i niwed yn ddiogel.”

Mae ‘bod yn gwcw yn y nyth’ (cuckooing) yn un enghraifft o’r modd y bydd gang yn defnyddio ac yn camdrin unigolyn agored i niwed. Mae hyn yn digwydd pan fydd gang yn meddiannu cartref defnyddiwr cyffuriau neu unigolyn agored i niwed arall, ac yn ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer delio cyffuriau’n lleol. Gallai hyn fod gyda bendith y preswylydd, ond yn amlach y mae o ganlyniad i drais neu fygythiad o drais. Mewn rhai achosion, gall y preswylydd hefyd gael ei roi dan bwysau i werthu cyffuriau.

Mae gweithgarwch anarferol a allai fod yn gysylltiedig gyda ‘bod yn gwcw yn y nyth’ yn cynnwys:

  • Llawer o wahanol bobl yn mynd a dod o gyfeiriad
  • Pobl yn mynd a dod ar adegau rhyfedd o’r dydd a’r nos
  • Gwynt amheus yn dod o’r eiddo
  • Ffenestri wedi eu gorchuddio neu lenni wedi eu cau drwy’r amser
  • Ceir yn tynnu i mewn ar bwys neu’n agos i’r tŷ am gyfnodau byr
  • Cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch yr eiddo

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn am gymorth y cyhoedd a phartneriaid i adnabod cam-fanteisio fel ‘bod yn gwcw yn y nyth’. Felly, os yw eich cymydog neu eich tenant yn sydyn yn cael llawer mwy o ymwelwyr i’w heiddo a hynny ar adegau anarferol o’r dydd a’r nos, neu os ydych yn sylwi bod y llenni bron bob amser ar gau, gallai hynny fod oherwydd bod eu cartref wedi ei feddiannu gan gang sy’n delio mewn cyffuriau.“Yn yr un modd gallech fod mewn sefyllfa fel rhiant neu ofalwr, athro neu weithiwr iechyd i adnabod bod ymddygiad unigolyn ifanc wedi newid. Gallech sylwi bod eu perfformiad academaidd yn disgyn neu eu bod yn gyson yn mynd ar goll o’r ysgol; gallech ddod yn ymwybodol fod ganddynt arian i’w wario yn sydyn iawn neu ddillad newydd a rhoddion o ffynhonnell anhysbys, neu eu bod yn cario arf fel cyllell. Gallai hyn fod oherwydd eu bod wedi dechrau ymwneud gyda gang.

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn un prysur i Heddlu Dyfed Powys gyda 1,700 o ddirwyon i rai oedd wedi teithio lle na ddylent fod wedi gwneud.