
Clwb Pêl Droed Tregaron Turfs yw pencampwyr Cynghrair Cambrian Tyres eleni.
Dywedodd Arwel Jones sydd yn rhan o dîm hyfforddi Tregaron Turfs ei fod yn falch iawn o lwyddiant y tîm eleni.
“Mae’n newyddion gwych ac i fod yn onest yn llawn haeddiannol,” meddai.
“Ma’r bechgyn di gweithio’n galed tymor yma, a ma’ nhw’n haeddu rhywbeth am yr ymdrech.
“Er ein bod ni wedi gobeithio ennill mwy na dim ond y gynghrair, gan ystyried y sefyllfa ofnadwy sydd ohoni ni’n fwy na hapus i fod yn bencampwyr.
Eglurodd Arwel Jones fod y chwaraewyr a’r tîm hyfforddi sydd wedi ymgymryd â her o redeg 1000 o filltiroedd yn ddiweddar i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yn Nhregaron eisoes yn edrych ymlaen at y tymor nesaf.
“Y gobaith nawr yw symud i adran yn uwch y tymor nesaf yn y gobaith bydd tymor yn dechrau fis Medi.
“Mae’r chwaraewyr i gyd yn ysu i fynd nôl i chwarae.”
Mewn datganiad dywedodd Cynghrair Cambrian Tyres :
“Yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Bêl Droed Cymru i ddod a’r tymor pêl- droed hamdden i ben, bydd safleoedd y gynghrair yn cael eu penderfynu ar sail pwyntiau fesul gêm.
“Felly, rydym yn llongyfarch Tregaron Turfs a Llanilar yn Adran 1 a Dolgellau Res a Penparcau Res yn Adran 2.
“Bydd cyflwyniadau swyddogol yn cael eu cynnal yng Nghyfarfod Cyffredinol nesaf y Gynghrair unwaith bydd y cyfyngiadau’n caniatáu.”
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael cadarnhad heddiw mai Tregaron Turfs yw PENCAMPWYR cynghrair Cambrian Tyres…
Posted by Clwb Pel Droed Tregaron Turfs FC on Wednesday, 3 June 2020