Trefniadau ysgolion Ceredigion er mwyn ail-gychwyn y dysgu ym mis Ionawr

Bydd y trefniadau’n gwahaniaethu yn ôl blwyddyn ysgol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi’r trefniadau er mwyn galluogi i blant y Sir ddychwelyd i ddysgu ym mis Ionawr, 2021.

Yn dilyn dau ddiwrnod o hyfforddiant, bydd y plant yn dychwelyd i ddysgu ar ddyddiau gwahanol yn ôl blynyddoedd ysgol.

Er hynny, mae’r Cyngor yn anelu i sicrhau bod yr ysgolion ar agor yn llawn o ddydd Llun, 11 Ionawr, 2021 ymlaen.

Diwrnodau hyfforddiant

Bydd dydd Llun, Ionawr 4 a dydd Mawrth, Ionawr 5 yn ddiwrnodau hyfforddiant i ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ni fydd disgyblion ar safle’r ysgol na chwaith yn cael eu dysgu o bell.

Ysgolion cynradd

O ran ysgolion cynradd, bydd athrawon yn dysgu o bell o ddydd Mercher, Ionawr 6 hyd at ddydd Gwener, Ionawr 8.

Mae’r Cyngor yn anelu i agor bob ysgol yn llawn ar gyfer pob disgybl cynradd o ddydd Llun,  Ionawr 11 ymlaen.

Os oes angen, bydd plant gweithwyr allweddol yn gallu mynychu eu hysgol o ddydd Mawrth, Ionawr, 5, ar gyfer gofal plant.

Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gadw’r disgyblion oddi fewn i’w grwpiau cyswllt.

Ysgolion uwchradd

Yn y sector uwchradd, bydd disgyblion blynyddoedd 11, 12 a 13 yn mynychu safle’r ysgol o ddydd Mercher, Ionawr 6 ymlaen.

Bydd disgyblion blynyddoedd 7 i 10 yn cael eu dysgu o bell rhwng dydd Mercher, Ionawr 6 hyd at ddydd Gwener, Ionawr 8.

Os oes angen, bydd plant gweithwyr allweddol blynyddoedd 7 ac 8 yn medru mynychu eu hysgol o ddydd Mawrth,  Ionawr 5 ar gyfer gofal plant.

Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gadw’r disgyblion oddi fewn i’w grwpiau cyswllt.

Unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol ac Uned Gyfeirio Disgyblion

Bydd Unedau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol, sydd wedi eu lleoli ar gampws rhai ysgolion yn agor yn llawn i ddisgyblion cynradd ac uwchradd ar ddydd Mawrth, Ionawr, 5.

Yn yr un modd, bydd yr Uned Gyfeirio Disgyblion hefyd yn agor yn llawn ar yr un dyddiad.

Bydd trafnidiaeth yn ôl yr arfer ar gyfer y disgyblion hyn.

Gwybodaeth bellach

Bydd ysgolion yn darparu gofal plant i blant gweithwyr allweddol i ddisgyblion sydd â 2 riant neu riant sengl yn gweithio i wasanaeth rheng flaen y gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd plant sy’n gymwys i Brydau Ysgol Am Ddim yn derbyn taleb neu daliad am y cyfnod hwn, a bydd y rhain yn cael eu hanfon allan yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr.

Mae’r Cyngor yn annog rhieni a gofalwyr i fod yn wyliadwrus am symptomau’r coronafeirws dros yr Wyl.

Os ydych chi, neu aelod o’ch swigen Nadolig, yn profi’n bositif am y coronafeirws, neu’n datblygu symptomau’r coronafeirws, mae’n rhaid i bob aelod o’r swigen Nadolig hunan-ynysu am 10 diwrnod.

Gallwch wneud cais am brawf fan hyn neu drwy ffonio 119.

Os yw plentyn yn derbyn canlyniad prawf positif dros gyfnod y gwyliau, mae’n rhaid e-bostio SchoolCovidSymptoms@ceredigion.gov.uk  gydag enw’r plentyn, blwyddyn ac ysgol