Trefniadau newydd busnesau gogledd Ceredigion

Sut mae busnesau lleol yn addasu i’r clo dros dro?

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae holl fusnesau’r fro wedi gorfod addasu, ac addasu eto i ddelio â heriau’r coronafeirws.

Dyma restr ‘fyw’ defnyddiol i bawb sy’n byw yng ngogledd y sir.

Mae’n cynnwys manylion oriau agor newydd ambell un, a threfniadau cludo rhai eraill. Wrth gwrs, mae llawer mwy o fusnesau ’na hyn ar agor ac yn cynnig gwasanaeth hollbwysig yn Aberystwyth a’n pentrefi lleol. Felly ewch ati i ychwanegu at y rhestr gyda gwybodaeth o’ch pentref chi!

Crëwch gyfrif (drwy glicio’r botwm ‘Ymuno’ ar dop y sgrin) a nodwch sylw ar waelod y stori.

 

Aberystwyth

Cigyddion

  • Cigydd Rob Rattray: Agor bob dydd heblaw am ddydd Llun. Yn cludo bwyd, archebwch drwy ffonio 01970 615353 neu drwy ebostio admin@robrattray.co.uk
  • Morgans: Ar agor fel arfer.

Siopau bwyd

  • Treehouse: Ar agor, ac yn cynnig gwasanaeth cludo drwy ei wefan www.tcth.co.uk 
  • Ultracomida: Ar agor 10-5 Llun-Gwener. Gallu archebu bwyd i gael ei gasglu drwy ffonio 01970 626008 neu ebostio shoporders@ultracomida.co.uk. Hefyd yn cludo bwyd i’r de o Aberystwyth ar ddydd Iau 29 Hydref, ac i’r gogledd o Aber ar ddydd Gwener 30 Hydref. I archebu, ewch i https://www.ultracomida.co.uk/page/home-delivery 
  • Marchnad Bysgod Jonah: Ar agor ac yn cynnig gwasanaeth ‘archebu a chludiant’ am ddim arlein: www.jonahsfish.co.uk
  • Pelican: Ar agor fel arfer.

Caffis / Bwytai

  • Byrgyr: Wedi cau.
  • Medina: Ar agor 9.30-8 Llun-Sadwrn.
  • Caffi Express: Caffi ar agor ar gyfer bwyd i fynd. Cludo bwyd rhwng 9-12 a 5-8.
  • SY23: Ar gau.
  • Y Dafarn Datws: Ar agor fel arfer, 5-8.30 Llun-Sadwrn.

Siopau Llyfrau

Borth

  • Fferyllfa Borth: Ar agor.

Tal-y-Bont, Taliesin a Tre’r Ddôl

  • Cletwr: Caffi ar gau. Oriau’r siop: 9-5.30 Llun-Sadwrn a 9-12 Sul. Cludo i ardal Llangyfelin.

Bow Street a Llandre

  • Tafarn Rhydypennau: Ar gau

Penrhyn-coch a’r cylch

  • Tafarn y Roosters: Cynnig cludfwyd. Ffoniwch 01970 828992.

Llanilar

  • Y Falcon: Ar gau. Cynnig cludfwyd a bwyd i fynd. Archebwch drwy ffonio 01970 241660.

Llanfihangel-y-Creuddyn

  • Y Ffarmers: Ar gau. Cynnig bwyd i fynd dydd Iau-Sadwrn 5-8.30 a ddydd Sul 12-3.

Goginan

  • Y Druid: Ar gau.

Pontarfynach:

  • Hafod: Ar gau.