Trafod Maes Eisteddfod Tregaron

Cafodd Pwyllgor Stiwardio Eisteddfod Ceredigion 2020 olwg gyntaf ar gynlluniau maes yr Eisteddfod.

Mererid
gan Mererid
Pwyllgor StiwardioMererid Boswell

All-focus

Cafodd Pwyllgor Stiwardio Eisteddfod Ceredigion 2020 olwg gyntaf ar gynlluniau maes yr Eisteddfod, maes carafanau, maes B a’r meysydd parcio. Bu cryn drafod ar nifer o agweddau gan gynnwys y pwysigrwydd fod y maes yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y rhai sydd yn cerdded o Dregaron. Mae’r maes mor agos i’r dref, mae gobaith mawr y bydd nifer o’r ymwelwyr yn mynychu’r dref.

Mewn cyfarfod ar nos Fercher, 29ain o Ionawr 2020, cafwyd golwg ar leoliad gwahanol elfennau o fewn y maes. Mae llwyfan y Maes yn wynebu tua’r Gorllewin, gan sicrhau na fydd sŵn yn cario i’r Pafiliwn a’r amrywiol stondinau lle cynhelir rhagbrofion, ac na fydd sŵn yn amharu ar drigolion lleol.

Atgoffwyd pawb fod dyddiad agor ar gyfer carafanau yn agor bore Llun, 3ydd o Chwefror am 10 y bore, ond y bydd llefydd i 1,500 o garafanau. Cafwyd trafodaeth am effaith y meysydd parcio ar y traffig, ac roedd yr Eisteddfod yn defnyddio cwmni allanol i ystyried hyn.

Maes parcio – cyfle i fudiad lleol?

Gofynnwyd hefyd a oedd mudiadau gwirfoddol a diddordeb mewn bod yn gyfrifol am y maes parcio am ffi o £8,000. Byddai angen 1-2 wirfoddolwyr yr wythnos flaenorol, ac wedyn tua 30 o wirfoddolwyr bob dydd o ddydd Gwener tan nos Sadwrn – rhwng 7 y bore a 10.30 yr hwyr.

Eisiau mynediad am ddim?

Gwirfoddolwch

Mae’r Eisteddfod yn chwilio am 150 o wirfoddolwyr i stiwardio am gyfnodau o tua thair awr a hanner yn gyfnewid am fynediad am ddim i’r maes. Os oes gennych chi ddiddordeb, beth am ddangos diddordeb ar https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2019/cefnogi/gwirfoddoli

Os am ragor o wybodaeth am waith cymunedol yr Eisteddfod cysylltwch ag:
Alwyn Roberts, Pennaeth Gweithredu Cymunedol
alwyn@eisteddfod.org.uk | 0845 40 90 400

2 sylw

Lowri Jones
Lowri Jones

Fi’n gw’bod bo fi’n rhy hen i holi hyn (!) ond ble fydd Maes B?

Mererid
Mererid

Reit wrth ymyl y Maes. Ar ffordd Bont.

Mae’r sylwadau wedi cau.