Torri targed band-eang yn rhoi Ceredigion wledig “ar waelod y domen eto”

“Wrth i’n dibyniaeth ar dechnoleg a’r we gynyddu, ni ellir gadael Ceredigion ar ôl.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Prydain i dorri targedau cysylltedd band-eang ardaloedd gwledig.

Llywodraeth y DU sydd â’r prif gyfrifoldeb am bolisïau band eang, nid yw’r maes hwn wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau eraill i weithredu.

Daw beirniadaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn newid yng nghynlluniau’r Canghellor, Rishi Sunak, a’i ymrwymiad i sicrhau bydd y gwasanaeth ar gael i “bob cartref” erbyn 2025.

Yn hytrach, mae wedi addo cyrraedd targed o 85% o gartrefi erbyn hynny.

Hefyd, dim ond £1.2 biliwn o’r £5 biliwn o gefnogaeth i weithredwyr fel Openreach i sicrhau’r datblygiadau fydd ar gael erbyn 2021.

Mae blaenoriaethu band-eang cyflym mewn ardaloedd gwledig yn “hanfodol i dyfu economi Ceredigion ar ôl yn pandemig,” meddai Cadan ap Tomos, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Ceredigion yn Senedd Cymru.

“Ni ellir gadael Ceredigion ar ol” 

“Mae’r pandemig wedi arwain at fwy o weithio a dysgu o adref ar gyfer cymaint ohonom,” meddai, “mae’n glir bod hyn wedi ymestyn capasiti ein band-eang i’r eithaf.

“Roedd ymrwymiadau band-eang cyflym yn rhan fawr o ymgyrch etholiad y Ceidwadwyr ddeuddeg mis yn ôl, ond mae cymunedau gwledig fel ni yn cael ein rhoi ar waelod y domen yn barod. Dyw hi ddim yn ddigon da.

“Nid dim ond am wylio Netflix heb oediadau yw hyn. Mae band eang gwael yn rhy aml yn golygu rhywun yn methu deall darlith, yn methu cyfarfod, neu’n colli cyfle busnes.

“Wrth i’n dibyniaeth ar dechnoleg a’r we gynyddu, ni ellir gadael Ceredigion ar ôl. Os na chaiff ardaloedd gwledig fel ni ein blaenoriaethu gyda band-eang cyflymach, ein heconomi ni fydd yn dioddef.”