gan
Medi James
Be wnest di i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi nain? Wnes i’r peth tebycach i ddawns Jac Do ar y prom.
A dyna beth wnaethon ni. Sefyll mewn parau, 164 o barau, a chodi breichiau i ffurfio bwa. Pawb wedyn yn cerdded drwy’r twnnel o freichiau yn ddi-dor er mwyn llwyddo i dorri record y Guiness Book of Records. 150 oedd y ffigwr i’w guro, fell y daeth 300 o bobl a mwy ar bnawn braf i fwynhau a chymdeithasu wrth wneud rhywbeth gwirion a roddodd wen ar ein gwynebau.