Teyrnged i Mona Morris MBE

Roedd Mona Morris yn gynghorydd tref am lawer o flynyddoedd. Roedd bob amser yn hyrwyddo Aberystwyth a’r iaith Gymraeg

gan Sue jones davies

Trist yw meddwl fod y diweddar Mona Morris MBE wedi ein gadael ar ôl cystudd hir. Roedd Mona yn ffrind agos iawn ac yn gefn cryf i mi pan oeddwn yn gynghorydd a maer y dref. Roedd wedi bod yn y swydd ei hunan ac roedd digon o brofiad ganddi.

Roedd Mona yn gryf iawn fel cynghorydd, yn falch o’r dref a phobl y dref a pharch mawr iddi hithau. Bu ar nifer fawr o bwyllgorau gan ennill llawer o barch yn ei gwaith caled. Mi fydd pobl y dref yn gweld ei heisiau a bydd bwlch mawr ar ei hôl.

Roedd yn fawr ei pharch a bydd yn golled mawr i’w theulu.

John James  Maer y Dref 2003-4