Talentau Rhyngwladol i Aber

Daw newyddion cyffrous o Goedlan y Parc wrth i’r clwb gyhoeddi tri chwaraewr newydd i’r garfan

gan Gruffudd Huw

Gydag egwyl yn y gynghrair oherwydd y cyfnod clo diweddar, mae timau wedi cael digon o amser i edrych ymhellach o adref i gael chwaraewyr newydd. Dyna’n union beth mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi’i wneud gan ychwanegu Shama Bako, Amin Ahmed a Louis Gerrard i’r garfan.

Yn 20 mlwydd oed, yr ymosodwr Shama Bako yw’r ifancaf o’r triawd newydd. Cafodd ei eni yn Harare, prifddinas Zimbabwe, ond mae wedi treulio’i yrfa pêl-droed yn chwarae ar draws Ewrop. Treuliodd ddeng mlynedd yn academi CPD Dinas Birmingham cyn ennill ysgoloriaeth gyda Northampton. Ar ôl graddio, aeth Bako ar antur i’r Almaen yn chwarae i ddau dîm yn ninas Lübeck – VFB a Phönix (y ddau yn y bedwaredd adran). Yn ychwanegol, mae Shama yn cynrychioli tîm cenedlaethol dan 23 Zimbabwe.

Daw Amin Ahmed (22 mlwydd oed) i’r clwb ar ôl treulio’i holl yrfa hyd yn hyn yn chwarae yn Lloegr. Mae wedi chwarae ar yr asgell dde a chwith i academi fyd-enwog Manchester City a hefyd i Macclesfield yn yr Ail Adran. Chwaraewr chwim yw Ahmed ac mae ei sgiliau wedi tynnu sylw tîm cyntaf cenedlaethol Ethiopia (er iddo symud i Loegr yn ifanc, fe anwyd Ahmed yn Ayisayeta yn Ethiopia). Cyhoeddwyd y bydd Amin yng ngharfan genedlaethol y wlad ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 a’r Africa Cup of Nations 2021 yn chwarae yn erbyn Niger.

Yn olaf, mae Louis Gerrard. Louis yw’r hynaf (28 mlwydd oed) a’r mwyaf profiadol o’r aelodau newydd. Mae eisoes wedi chwarae 83 o gemau yng Nghymru yn y brif ac ail adran i’r Barri ac wedi chwarae tipyn mwy yn y cynghreiriau is i dimau megis Fairwater FC a Taffs Well. Yn ychwanegol, mae ganddo brofiad o bêl-droed Ewropeaidd pan gyrhaeddodd Barri gemau rhagbrofol Cynghrair Ewropa. Daeth y chwaraewr o dde Cymru yn un o ffefrynnau’r cefnogwyr yn y Barri oherwydd ei waith caled yng nghanol y cae.

Mae’n siŵr y bydd y tri newydd hyn yn help mawr i’r tîm wrth i Aber gystadlu am safle o fewn chwech uchaf y gynghrair.