Tafarn Scholars yn trafod ailagor

Tafarn Scholars “ddim yn disgwyl iddi fod yn rhy brysur”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dyweododd aelod o staff tafarn Scholars, Aberystwyth, wrth golwg360 bod hi “ddim yn disgwyl iddi fod yn rhy brysur” wrth i’r darfan agor am 4 yr hwyr ddydd Llun (Awst 3).

“Dw i’n credu y bydd rhai pobol yn dal i fod yn ofidus am y feirws ac ati, felly dw i ddim wir yn disgwyl iddi brysuro tan y penwythnos o leiaf.”

Fel pob tafarn arall, soniodd fod Scholars wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r dafarn ar gyfer ailagor.

“Rydyn ni wedi gorfod symud lot o’r dodrefn, casgenni ac yn y blaen o gwmpas fel bod modd cadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol.

“Ac wrth gwrs bu’n rhaid i ni wario cryn dipyn o arian ar offer… glanweithyddion a’r math yna o beth.

“Ond bydd hi’n braf iawn gweld yr hen wynebau’n dod yn ôl drwy’r drws.”