Tafarn yn cael hawl i ail-agor

Caniatawyd i The Mill Inn yn Aberystwyth ailagor ar ôl gwella eu gweithdrefnau a’u cyfleusterau.

Mererid
gan Mererid

Ar y 5ed o Hydref 2020, caniatawyd i dafarn y Mill Inn yn Aberystwyth ailagor ar ôl gwella eu gweithdrefnau a’u cyfleusterau mewn ymateb i hysbysiad cau a gyflwynwyd fis diwethaf.

Ar 22 Medi, mynnodd Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd o Gyngor Sir Ceredigion bod y dafarn yn cau ar ôl achosion honedig o dorri Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Ers cyflwyno’r hysbysiad cau, mae perchnogion y dafarn John a Joanna wedi bod yn gweithio gyda Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd i wneud gwelliannau, gan gynnwys cyflwyno terfyn ar gapasiti’r lleoliad, sicrhau bod pellter cymdeithasol rhwng seddau a gwella’r broses o gasglu manylion olrhain cyswllt. Caniatawyd i’r dafarn ailagor gan fod Swyddogion y Cyngor Sir bellach yn fodlon bod gwelliannau digonol wedi’u gwneud i sicrhau bod y safle a’r staff yn cydymffurfio â chyfyngiadau’r coronafeirws.

https://golwg.360.cymru/bro/2014524-cyngor-ceredigion-mill-aberystwyth