SYSTEM CARTHFFOSIAETH YN BROBLEM

Problemau carthffosiaeth yn Nhal-y-bont

gan Gwyn Jenkins
Tal-y-bontEddie Webster (CC-BY-SA2.0)

Tal-y-bont, Ceredigion (llun: Eddie Webster (CC-BY-SA2.0) Wikimedia)

Mae preswylwyr gwaelod pentref Tal-y-bont yn parhau’n anfodlon iawn gydag ymateb Dŵr Cymru i broblemau carthffosiaeth yn y rhan honno o’r pentref.

Yn ystod trydedd wythnos Ionawr, rhwygodd y brif bibell a oedd yn cludo carthffosiaeth y pentref o’r orsaf bwmpio ar ddiwedd Stryd James  hyd at y gwelyau hidlo ddwywaith o fewn cyfnod o bedair awr ar hugain.

Roedd y byrstio cychwynnol o dan Gae’r Sioe ar ddydd Iau 23ain Ionawr ac yna cafwyd holltiad arall fore Gwener yn Stryd James / Pantycalch. Hwn oedd y trydydd digwyddiad o’r fath yn Stryd James  yn unig yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

SYSTEM CARTHFFOSIAETH YN BROBLEMMae’r gwaith atgyweirio’n cynnwys cloddio dwfn sy’n achosi aflonyddwch ac anghyfleustra i drigolion yr ardal ar wahân i’r peryglon iechyd posibl sy’n gysylltiedig ag elifiant heb ei drin.

Un sydd wedi dioddef tipyn o’r problemau hyn yw Barry Morgan a dywedodd wrth Bapur Pawb:   ‘Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mae’r system yn hen ac yn chwalu… rydym yn galw ar Dŵr Cymru i uwchraddio system garthffosiaeth y pentref yn hytrach na gwneud atgyweiriadau patsh brys yn unig’.

Ceir mwy o’r hanes a holl newyddion y fro yn rhifyn Chwefror Papur Pawb a fydd ar werth ar ddydd Gwener 14 Chwefror.