Swastika a graffiti wedi ei lanhau oddi ar wal Cofiwch Dryweryn

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i graffiti ymddangos ar wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud.

Mae’r graffiti bellach wedi gael ei lanhau.

Mewn neges at golwg360, dywed y ffotograffydd Marian Delyth iddi sylwi ar y graffiti wrth fynd heibio’r wal heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 30).

“Dw i ddim wedi pasio fan hyn ers deg diwrnod ond fe sylwais hanner awr yn ôl bod graffiti ar wal Cofiwch Dryweryn,” meddai.

Wrth dynnu sylw at y digwyddiad ar ei thudalen Twitter, dywed Elin Jones fod y weithred yn un “afiach”.

Yn ddiweddarach diolchodd Elin Jones i Gynor Sir Ceredigion, a Heddlu Dyfed Powys am eu gwaith.