Roedd hi’n foment hanesyddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda heddiw (Rhagfyr 8), wrth i’r staff fod ymhlith y cyntaf yn y byd i gael brechlyn yn erbyn y coronafeirws.
Yr aelod o staff cyntaf ii dderbyn y brechlyn oedd Nicola Drake, sy’n gweithio fel Ymgynghorydd yn Uned Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg, ac Arweinydd Clinigol Meddygaeth Frys.
Wrth drafod y profiad, dywedodd:
“Rwy’n gyffrous iawn ac yn teimlo’n freintiedig i fod y person cyntaf yn Hywel Dda i gael y brechlyn Covid-19. Roedd yn hawdd iawn ac ni wnes i deimlo unrhyw beth.
“Credaf y dylai pob un sy’n gymwys i gael y brechlyn ei gael, yn enwedig os ydych yn un o’r grwpiau risg mwyaf.”
“Tro ar fyd, sy’n rhoi gobaith i ni”
Yn ôl Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Hywel Dda, Ros Jervis:
“Mae dyfodiad brechlyn Covid-19 yr wythnos hon yn ddigwyddiad ddaw â thro ar fyd, sy’n rhoi gobaith i ni ar ddiwedd 2020.
“Rydym ar flaen y gad yn y tirnod hanesyddol hwn yn y pandemig ac yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda byddwn yn brechu 975 aelod o staff yr wythnos hon, sy’n anhygoel o ystyried cyflymder y datblygiad hwn.
“Rydym yn gofyn i’n cymuned fod yn amyneddgar gan y bydd yn cymryd nifer o wythnosau i frechu hyd yn oed y bobl hynny o fewn y ddau faes blaenoriaeth gyntaf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Bydd brechlyn ar gyfer pob person sydd am gael un.”