Sgiliau sylfaenol Ceredigion Actif nawr ar Youtube

Fideos byr i’ch helpu i gadw’n heini

Mae staff Ceredigion Actif wedi bod yn brysur yn meddwl am syniadau i drigolion Ceredigion i gadw’n heini ac actif dros y cyfnod ansicr yma. Erbyn hyn mae fideos byr wedi cael eu hychwanegu i dudalen Youtube Ceredigion Actif. Felly os hoffech chi, neu rywun arall yn eich cartref, fynd ati i ddysgu neu wella sgiliau symud neu sgiliau gydag offer chwaraeon yna chwiliwch am Ceredigion Actif ar safle Youtube. Dilynwch y linc yma:

Tudalen Youtube Ceredigion Actif