Mae llyfr newydd yn gweld awdures newydd, Carys Glyn, ac artist o fri, Ruth Jên, yn cydweithio i gyfuno rhai o anifeiliaid y Mabinogi a’r broblem gyfoes o wenyn yn diflannu i greu antur gyda neges newydd sbon i blant – Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll (Y Lolfa).
Datblygodd y bartneriaeth yn ystod cwrs wythnos yn Nhŷ Newydd ar ddechrau 2019, gyda Manon Steffan Ros a Jac Jones yn arwain y cwrs.
Meddai Carys Glyn:
“Cyn dechrau’n iawn ar y llyfr, roedd y ddwy ohonom yn hollol gytûn ein bod ni eisiau i’r llyfr edrych yn wahanol i lyfrau plant arferol. Ein blaenoriaeth oedd creu llyfr llawn hiwmor a fydd yn hwyl i blant edrych arno, i wrando arno ac i feddwl amdano.”
Mae’r stori’n ailddychmygu anifeiliaid hynaf y byd, o chwedl Culhwch ac Olwen, fel archarwyr sydd yn helpu anifeiliaid eraill i ddatrys problemau’r byd naturiol o’u cwmpas. Trwy ddefnyddio eu doniau anhygoel mae’r pum cymeriad unigryw – G.Hw, Carwww, Eryr, Chwim a Mal yn gweithio gyda’i gilydd i achub y dydd ac i achub y blaned!
Daeth y pum cymeriad o ddychymyg yr artist o Dal-y-bont, Ruth Jên. Meddai Ruth:
“Dwi wedi defnyddio’r Anifeiliaid Hynaf o’r Mabinogi fel ysbrydoliaeth i fy ngwaith celf ers rhai blynyddoedd. Wedi i Carys weld brasluniau yn seiliedig ar y cymeriadau fel criw o archarwyr, fe aeth hi ati i ddatblygu stori ar eu cyfer.”
Meddai Carys: “Ar ôl mynd adref, syllais ar y lluniau am amser hir cyn i bersonoliaethau unigol y ‘criw’ dod yn amlwg i fi. R’on i’n gweld y gwdi-hw yn syth fel yr arweinydd naturiol oedd yn rapio ei gyngor doeth, a Chwim yr eog fel ei ddirprwy a hefyd yn ffrind da i Carwww, aelod mwyaf nerfus y Criw. Daeth Eryr wedyn yn gymeriad gyda’r cyhyrau mawrion oedd ofn dim byd. Mwyalchen oedd y cymeriad anoddaf i fedru’i ddatblygu… ond roedd Ruth wedi cyfleu gymaint amdano yn y sgets wreiddiol. Fe ddaeth yn glir mai Mwyalchen oedd yr un difrifol, dirgel – ar gyrion y Criw. Roeddwn i’n caru’r syniad bod gan bob un ohonyn nhw ddoniau gwahanol a gyda’i gilydd bydden nhw yn medru datrys unrhyw broblem. Roeddwn i’n eu gweld nhw fel rhyw fath o ‘A Team’ yn dod o ddyfnderoedd y goedwig i helpu anifeiliaid heddiw oedd mewn trafferth.”
Mae’r ddwy yn gobeithio y bydd y stori yn dysgu gwers foesol bwysig i blant heddiw, gan fachu diddordeb darllenwyr ifanc a herio’u dealltwriaeth am y byd naturiol o’u cwmpas.
Meddai Ruth:
“Neges y stori yw cofiwch y gwenyn! Mae’n bwnc sydd yn agos at fy nghalon.”
Meddai Carys:
“Rwy’n gobeithio y bydd plant yn sylweddoli eu bod nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR i ddyfodol y blaned trwy wneud y pethau bach. Hefyd, rwy eisiau i bobl roi ail gyfle i wenyn – mae llawer o blant bach yn teimlo ofn wrth weld gwenynen, fel un o’r cymeriadau yn y stori. Rwy’n gobeithio ar ôl darllen y llyfr y bydd plant yn sylwi bod gwenyn yn arwyr yr ardd, a hebddyn nhw byddai y rhan fwyaf o’n llysiau a’n ffrwythau yn diflannu.”
“Fel athrawes rwy’n gobeithio y bydd y stori wreiddiol yma yn ddefnyddiol i helpu athrawon i gyflawni’r nod o ddatblygu disgyblion heddiw yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Un o fwriadau’r testun ydi tanio’r drafodaeth am sut y gall plant gyfrannu at edrych ar ôl y blaned a’u hannog i edrych yn agosach ar yr hyn sydd yn digwydd yn eu parc neu’u gerddi.
Addas i blant dan 7 oed.
Mae Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll gan Carys Glyn ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).