Bore olaf mis Mawrth, clywodd teulu bach Yr Angor y newyddion fod Richard, trysorydd y papur ac un o’r selocaf o’i garedigion, wedi marw’r noson cynt.
Roedd Richard yn ŵr rhadlon a chwrtais. Bu’n swyddog penigamp: pleser i’w gyd-swyddogion oedd cydweithio ag ef ar bob math o faterion ffurfiol a phwysig yn ymwneud â phapur bro Aberystwyth a’r cylch. Ac ar ben cadw trefn ar yr ochr ariannol roedd yn fwy na pharod i dorchi llewys pan oedd angen (er enghraifft, i sicrhau y byddai’r papur yn cael ei ddosbarthu’n brydlon o gwmpas y fro). Roedd Richard yn ddyn egnïol ac yn llawn syniadau. Mae’r Angor wedi ennill sawl cystadleuaeth lwyfan yn Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Gogledd Ceredigion o ganlyniad i’r offerynnau ‘cerddorol’ – o’r sied arddio neu’r garej yng Nghilmeri – a ddarparodd Richard ar gyfer ein ‘cerddorfa’. Yn ogystal â bod yn un da am ddewis y ‘props’ rhyfeddaf, roedd Richard yn un da yn yr eisteddfodau hyn am actio mewn sgets (a ysgrifennwyd gan Dana, ei briod, gan amlaf) ac am ganu mewn ‘band’.
Bydd pawb sy’n gysylltiedig â’r Angor yn gweld eisiau’r dyn gweithgar a thalentog hwn. Rydym wedi elwa’n fawr o’i waith gofalus ac o’i gefnogaeth a’i gyfeillgarwch dros y blynyddoedd. Cydymdeimlwn â Dana a’r plant, Dafydd a Fflur, yn eu hiraeth am un annwyl iawn.
Cymro da. Dyn da.
A choffa da amdano.