Rhybudd o lifogydd yn Aberystwyth

“Ry’n ni’n debygol o weld digwyddiadau eithafol fel hyn yn amlach.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgwyl llifogydd ar lan y môr Aberystwyth heno a bore fory.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bydd llifogydd am 8.15 yr hwyr nos Iau, 9.30 bore dydd Gwener, a 8.00 yr hwyr nos Wener.

Disgwylir i’r llanw fod ar ei waethaf fore dydd Gwener.

Daw hyn ar ôl i wyntoedd o hyd at 66 milltir yr awr gael eu cofnodi ym Mhen-bre yn Sir Gaerfyrddin wrth i Storm Ellen daro rhannau o wledydd Prydain.

Mae gwyntoedd o hyd at 66  milltir yr awr hefyd yn cael eu cofnodi yn Iwerddon, ac 89mya ar hyd arfordir deheuol y wlad.

Mae’r swyddfa dywydd hefyd wedi rhybuddio pobol sy’n gwersylla  y gallai coed ddymchwel mewn gwyntoedd o fwy na 70mya.

Mae’r rhybudd am dywydd gwael yn parhau mewn grym hyd at oriau man fore dydd Gwener (Awst 21) gyda rhybudd am oedi i deithwyr a’r posibilrwydd o golli cyflenwadau trydan.

Daw’r stormydd llai nag wythnos ar ôl i’r tymheredd gyrraedd 34C (93F) mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Luke Miall o’r Swyddfa Dywydd y bydd effeithiau Storm Ellen “yn parhau am y cwpl o ddyddiau nesaf” gan ychwanegu: “Ry’n ni wedi mynd o un eithaf i’r llall a’r peth cyntaf sy’n dod i fy meddwl gyda’r math yma o ddigwyddiadau yw newid hinsawdd.

“Ry’n ni’n debygol o weld digwyddiadau eithafol fel hyn yn amlach.”