Mae pedwar cwmni bwyd yn Aberystwyth wedi eu rhybuddio gall eu busnesau orfod cau gan nad ydynt yn cydymffurfio a’r rheoliadau i atal lledaeniad y coronafeirws.
Cyflwynwyd yr hysbysiadau yn dilyn arolygiadau wedi’u cydlynu dros y penwythnos gan Heddlu Dyfed Powys a Thîm Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.
Mae’n rhiad i’r busnesau gymryd camau rhesymol i ddarparu cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb gan sicrhau bob aelod o staff yn eu defnyddio.
Mae Hysbysiadau Gwella Mangre wedi cael eu cyflwyno i’r sawl sy’n gyfrifol am y siopau canlynol:
- Express Café, Aberystwyth
- Domino’s, Aberystwyth
- Hot Dumplings, Aberystwyth
- Star Fried Chicken and Pizza, Aberystwyth.
Mae’r hysbyseb yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio a’r gwelliannau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre.
Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd yn parhau i arolygu’r sefyllfa a gellir cyflwyno hysbysiadau gwella neu hysbysiadau cau mangre i’r busnesau nad ydynt yn cydymffurfio.