Rhybudd o gloi lleol yng ngorllewin Cymru

“Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol”, meddai arweinwyr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Mae arweinwyr awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru, y bwrdd iechyd a Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio pobl i fod yn “wyliadwrus” er mwyn cadw achosion Covid-19 i lawr, ac y gallai cloi lleol ddigwydd pe na baent yn dilyn rheolau pellter cymdeithasol.

Ers dydd Mawrth (Medi 8) mae cloi lleol yn sir Caerffili i reoli achosion o’r coronafeirws – y cloi cyntaf o’i fath yng Nghymru.

“Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru”, meddai arweinwyr Cyngor Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin, a Chyngor Sir Penfro mewn datganiad ar y cyd.

“Ond, os bydd y bygythiad yn cynyddu a’r diffyg cadw pellter cymdeithasol yn parhau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni gymryd y camau angenrheidiol.

“Mae’r pandemig hwn ymhell o ddod i ben – mae’r feirws yn mynd ar led o hyd ac mae’r risg yn dal yn uchel.  Mae angen i bobl barchu’r mesurau sydd ar waith ar waith a chymryd cyfrifoldeb personol dros gadw pellter cymdeithasol a hylendid da.”

“Helpwch i gadw cymunedau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ddiogel – mae’n rhaid i ni gyd chwarae ein rhaid i amddiffyn ein hunain a’n gilydd.”

Daw eu rhybudd ar ôl i glwstwr o achosion positif o Covid-19 gael eu cadarnhau yn Sir Gaerfyrddin, yn sgil digwyddiad cymunedol.

Mae Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi annog y cyhoedd i barhau i ddilyn cyngor iechyd i’n cadw’n ddiogel, gan gynnwys cadw dau fetr oddi wrth bobl eraill y tu allan i’w swigen deuluol, lleihau cysylltiadau ag eraill lle y bo’n bosibl, osgoi cwrdd mewn grŵp o fwy na 30 o bobl a golchi dwylo’n rheolaidd.

Mae rhybudd am gloi lleol mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Ffigurau diweddaraf (Medi 9)

Cafwyd 1 o achos newydd o Covid-19 yng Ngheredigion, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd yno i 85.

Cafwyd 4 o achosion newydd o Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd yno i 866.

Cafwyd 4 o achosion newydd o Covid-19 yn Sir Benfro, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd yno i 329.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (Medi 9) na nodwyd unrhyw farwolaethau pellach yng Nghymru, gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn aros ar 1,597.