Rheolwr Penparcau yn ennill gwobr gan y Gymdeithas Pel-droed

Andy Evans o Benparcau yw enillydd gwobr Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru am yr ail gynghrair.

Mererid
gan Mererid

Andy Evans o Benparcau yw enillydd gwobr Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru am yr ail gynghrair.

Beth oedd mor dda am sgiliau rheoli Andy?

Dair blynedd yn ôl, roedd tîm Penparcau wedi ei ddiddymu, a phroblemau difrifol o fethu cael tîm a diffyg diddordeb. Daeth Darren Thomas ac Andy at ei gilydd, a phenderfynu y byddent yn cyd-reoli’r tîm, a hynny yn hynod effeithiol. Enillodd Penparcau’r gynghrair a Chwpan Emrys Morgan yn y tymor diwethaf, a byddent wedi ennill y Gynghrair eleni petai’r tymor wedi parhau. Maent yn aros i glywed a fyddant yn cael symud i gynghrair un Canolbarth Cymru, sydd yn cael ei ail-drefnu o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae cyfweliad gyda Darren ac Andy i’w weld yma

Pwy yw Andy?

Fe cyn-chwaraewr proffesiynol, hyfforddodd gyda Thîm Dinas Caerdydd, lle enillodd gap Dan-21 Cymru, cyn trosglwyddo i chwarae i Ferthyr Tudful, Ebbw Vale ac Aberystwyth a dychwelyd i’w swydd fel postmon. Talodd Barnsley £15,000 i’w drosglwyddo o Aberystwyth, cafodd gyfle i chwarae i Mansfield Town a Chester City cyn cael caniatâd i ymuno â Stalybridge Celtic, yna ymlaen i Frickley Athletic, Belper Town a Ossett Town. Hyfforddodd fel rheolwr tîm pêl-droed gan sicrhau cymwysterau angenrheidiol.

Mae bellach yn gweithio gyda’i dad, Ken Evans, fel adeiladwr. Mae’n byw ym Mhenparcau gyda’i ferched Aimee ac Olivia.

Mae Andy hefyd yn hyfforddi tîm merched Clwb Pêl-droed Aberystwyth, ac felly yn hynod o brysur gyda’i holl ddyletswyddau.

Diolch Andy am dy holl waith caled – ac edrych ymlaen am y tymor nesaf.