Mae nifer o ddisgyblion yn Ysgol Gymunedol Llangwyryfon yn hunanysu, ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion gadarnhau achos o’r coronafeirws yn yr ysgol.
Mewn datganiad, dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion mai dim ond un Grŵp Cyswllt sydd yn gorfod hunanynysu oherwydd “y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol”.
Mae’n rhaid i’r disgyblion a’r staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau ymlediad posibl y feirws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.
Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni a’u hannog i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.