Radio Aber yw’r orsaf radio cymunedol newydd ar gyfer Aberystwyth a’r cylch. Maent wedi ennill trwydded i ddarlledu o fast Blaenplwyf, fydd yn golygu fod cyrhaeddiad y radio newydd o Dde Ceredigion i’r Bermo a Machynlleth – felly ardal BroAber360.
Bydd yn rhedeg ar FM ac ar-lein felly digon o ffyrdd i chi wrando.
Mae Radio Aber yn awyddus i fod yn gyfrwng dwyieithog, gyda’r Gymraeg a Saesneg yn cael eu cyfuno yn y darllediadau – yn union fel y mae yn y gymuned. Bydd cymysgedd o gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg yn cael ei chwarae hefyd – ond mae’n holl ddibynnol ar gael gwirfoddolwyr Cymraeg i help.
Mae radio cymunedol yn wahanol i radio masnachol. Mae’n cael ei redeg gan aelodau’r gymuned leol, ac mae’n fusnes dielw. Mae ei raglennu yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan ei wrandawyr.
Mae Radio Aber yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan y gymuned. Mae arolwg yn cael ei gynnal ar y foment a byddai yn dda cael cymaint o ymateb a phosibl i helpu llunio cynnwys yr orsaf radio.
https://radioaber.cymru/survey/
Mae Radio Aber yn bwriadu dechrau darlledu ar FM erbyn Medi 2020.
Rydym yn gobeithio y bydd modd i rai o uchafbwyntiau Radio Aber i fod yn rhan o gynnwys sain BroAber360, ac felly yn ddatblygiad diddorol iawn.
Pwy sy’n arwain Radio Aber?
Al Frean sydd yn arwain y gwaith, gan iddo fod yn hynod o weithgar gyda Radio Bronglais, sydd wedi bod yn darlledu 24 awr yn yr ysbyty. Oherwydd cyfyngiadau ar ymwelwyr i’r ysbyty, nid yw wedi bod yn bosibl i’r gwirfoddolwyr fynychu fel yr oedd angen yn flaenorol.
Mae’r Cynghorydd Dylan Lewis (sydd yn cynrychioli ward Penparcau) hefyd yn helpu gyda’r ymgyrch.
Lle mae cartref Radio Aber?
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cytuno i roi cartref i Radio Aber yn Nhŷ’r Porthordy sydd ar y ffordd yn arwain i’r Llyfrgell Genedlaethol. Diolch iddynt am roi cartref i’r fenter newydd.
Sut gallaf fi wirfoddoli?
Mae angen pob math o sgiliau – chwilio am hysbysebwyr, codi arian, help technegol, i chwilio am storiâu yn y gymuned. Does dim angen i bawb fod yn gyflwynwyr, ac mae modd recordio cynnwys o’ch cartref, felly dyw coronafeirws ddim yn esgus.
Gwirfoddolwch yma https://radioaber.cymru/get-involved/
Eich radio chi yw’r radio yma – felly helpwch ni i’w gwneud yn gyfrwng newydd lleol Cymraeg.