Anfonir y tîm yn ddyddiol o Hwb Cymunedol Penparcau yn ein bws mini a sefydlwyd gwasanaeth dosbarthu bore, amser cinio a te. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn derbyn bwyd dros ben yn ddyddiol, a’i ddosbarthu i wahanol rannau o’r ward, gan roi gwybod i weddill y gymuned os oes bwyd yn weddill.
Mae PAT bellach yn gweithredu gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos gyda 4 gwirfoddolwr yn gweithredu shifft y bore a 4 gwirfoddolwr yn gweithredu shifft y prynhawn. Mae’r swyddfa hefyd ar agor rhwng 09:00 – 15:00 bob dydd i dderbyn galwadau ffôn yn unig. Ffoniwch 01970 611099 yn ystod yr amseroedd hynny os ydych am drafod unrhyw beth.
Derbyniwyd grant gan Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru, i ddosbarthu meddyginiaeth a bwyd i bobl agored i niwed yn y gymuned leol.
Gwaith adeiladau
Mae gwelliannau wedi eu gwneud i’r brif neuadd, a gwaith pellach tu allan yn mynd rhagddo. Grant gan y Loteri a’r Clwb Rotari sydd yn gyfrifol am y gwaith yma.
Clwb Garddio
Sefydlwyd Grŵp newydd Prosiect Plannu Penparcau, sydd wedi bod yn harddu’r bocsys plannu du o amgylch yr ardal, ac wedi gwneud gwaith gwych o amgylch y Ganolfan.
Gallwch ddilyn y grŵp ar Facebook drwy glicio yma. https://www.facebook.com/Penparcau-Planting-Project-100183128401538/