Protest heddychlon yn Aberystwyth i gofio George Floyd

Parchwyd y rheolau dwy fetr ac roedd y trefnwyr wedi annog pobol i wisgo masgiau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Cynhaliwyd protest heddychlon yn Aberystwyth heno (Mehefin 4) i gofio George Floyd a chefnogi Black Lives Matter.

Gan barchu’r rheolau pellter dwy fetr sydd mewn lle oherwydd y coronafeirws trefnwyd mai protest eistedd i lawr heddychlon ar draeth Y Ro Fawr fyddai’r un yma, ac roedd trefnwyr y digwyddiad wedi annog pobol i wisgo masgiau.

Bu farw George Floyd, dyn croenddu, wrth i heddwas wasgu ar ei wddf â’i ben-glin ar Fai 25, gan sbarduno dyddiau o brotestio ar draws yr Unol Daleithiau.

Sefydlwyd Black Lives Matter yn 2013 gyda’r nod o ddileu goruchafiaeth pobol gwyn a chael gwared ar drais yn erbyn cymunedau du.

“Hawl i gynnal protest heddychlon”

Cyn y brotest roedd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau fod y Cyngor Sir yn ymwybodol bod protest heddychlon yn cael ei threfnu i gefnogi’r ymgyrch ‘Black Lives Matter’.

Dywedodd y llefarydd: “Mae’r Cyngor yn llwyr gefnogi’r hawl i gynnal protest heddychlon ac yn gofyn i bawb sy’n cymryd rhan i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol er mwyn diogelu iechyd pawb a fydd yn bresennol, ynghyd â thrigolion a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystod pandemig cyfredol Covid-19.”

Gweler y canllawiau  gan y cyngor isod:

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymwybodol bod protest heddychlon yn cael ei threfnu i gefnogi’r ymgyrch ‘Mae Bywydau Du o…

Posted by Cyngor Sir Ceredigion on Thursday, 4 June 2020