Prifysgol Aberystwyth yn paratoi am y flwyddyn newydd

“Gymaint o’r dysgu ag sy’n bosibl yn digwydd wyneb yn wyneb”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu rhai o’u trefniadau ar gyfer y flwyddyn addysgiadol newydd.

Bydd “gymaint o’r dysgu ag sy’n bosibl yn digwydd wyneb yn wyneb” meddai’r brifysgol.

Mae’r brifysgol yn dweud bod “cynlluniau ar waith i er mwyn i fyfyrwyr fod gyda ni ar gampws sydd wedi ei addasu”.

“Rydym yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth ac yn gweithio gyda’r Cyngor Sir a’r Bwrdd Iechyd lleol er mwyn cyflwyno mesurau cynhwysfawr a fydd yn diogelu iechyd a lles pob myfyriwr,” meddai’r brifysgol.

Bydd systemau un ffordd yn cael eu cyflwyno ar draws y campws, tra bod cynlluniau ystafelloedd dosbarth yn cael eu haddasu.

Ar ben hynny, bydd arwyddion a threfniadau glanhau ar draws y campws.