Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ei dysgu a phrofiad myfyrwyr, yn ôl Canllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times.
Mae Aberystwyth wedi bod y brifysgol orau yng Nghymru am brofiad myfyrwyr ers pum mlynedd, a nawr ar y brig yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r brifysgol wedi codi o’r 45fed safle i 42 yn y tabl, ac mae’n drydydd yng Nghymru, tu ôl i Gaerdydd ac Abertawe.
Mae’r Canllaw, sy’n cael ei redeg gan y Times a’r Sunday Times, yn ystyried naw dangosydd sef: bodlonrwydd myfyrwyr ar ansawdd addysgu a’r profiad myfyrwyr ehangach, ansawdd ymchwil, rhagolygon i raddedigion, cymwysterau mynediad i fyfyrwyr newydd, canlyniadau graddau, cymarebau myfyrwyr/staff, gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau, a chyfraddau cwblhau graddau.
Yn ei adolygiad, dywedodd Canllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times: “Daeth Aberystwyth i’r brig yn ein dadansoddiad o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer boddhad gydag ansawdd y dysgu a’r profiad ehangach yn y brifysgol.
“Mae’n beth prin i brifysgol gyflawni’r llwyddiant dwbl yma gyda sgoriau boddhad myfyrwyr.”
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae hyn yn newyddion gwirioneddol wych.
“Mae’r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o’r gwaith caled iawn gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol.
“Mae cael ein cydnabod fel y Brifysgol orau yn y DU am ansawdd y dysgu a phrofiad myfyrwyr yn rhywbeth gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.
“Hoffwn ddiolch i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am eu cyfraniad tuag at gyflawni hyn.”
“Adeg gyffrous”
Aeth yr Athro Elizabeth Treasure ymlaen i ddweud: “Mae’n adeg gyffrous gyda buddsoddiadau allweddol yn dwyn ffrwyth, gan gynnwys ail-agor Neuadd Pantycelyn eleni, a’n hysgol filfeddygol newydd ac adfer yr Hen Goleg dros y blynyddoedd i ddod.
“Bydd y buddsoddi parhaus hyn yn caniatáu i ni adeiladu ar ein treftadaeth gyfoethog a’n hymrwymiad cenedlaethol at addysg wrth i ni groesawu myfyrwyr a staff o Gymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.”