Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, beirniad erthygl orau’r Wawr am eleni yn rhoi’r ail wobr i Dana Edwards

Dyma’r erthygl a enillodd yr ail wobr am erthygl orau’r flwyddyn yng nghylchgrawn Y Wawr.

Dana Edwards
gan Dana Edwards

Beth yw bod yn ferch?

Fyddwch chi’n categoreiddio pobl? O gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf fyddwch chi’n gwneud penderfyniadau sydyn amdanynt – hwntw/gog, pert/salw, taclus/anniben, deallus/anwybodus, cefnog/tlawd, difyr/diflas, egniol/diog, ac yn y blaen? Wel, os ydych chi’n gwneud hyn ai peidio, yn sicr mae pob un ohonom yn gosod eraill mewn un o ddau gategori – merched neu ddynion.

Ry’n ni’n penderfynu hynna ar sail edrychiad. Un sydd wedi dioddef llawer yn sgil hyn yw’r athletwraig Caster Semenya o Dde Affrica. Mae’n enillydd Olympaidd y ras 800m, ond bellach mae’n disgwyl dyfarniad y Ffederasiwn Athletaidd (IFFR) sydd ar benderfynu a gaiff hi gystadlu bellach. Hynny yw, cystadlu fel menyw. Nid fod unrhyw amheuaeth bod Semenya wedi twyllo, ond mae ei chorff yn naturiol yn cynhyrchu mwy o destosteron na’r cyffredin, a hyn yn golygu ei bod yn hynod gyhyrog. Mae rhai yn mynnu, er mwyn sicrhau tegwch i gystadleuwyr benywaidd eraill, na ddylai Semenya gael cystadlu oni bai ei bod yn cytuno cymryd cyffuriau i reoli’r testosteron yn ei chorff. Dadl eraill yw bod Semenya wedi ei geni â mantais naturiol. Wedi’r cyfan does dim sôn am wahardd chwaraewyr pêl-rwyd sy’n digwydd bod yn dal iawn, na nofwyr sydd â thraed mwy na’r cyffredin.

Mae’n amlwg felly nad yw cael eich geni ag organau rhywiol benywaidd yn ddigon i sicrhau eich bod yn ddigon benywaidd ymhob sefyllfa. Mewn sefyllfaoedd eraill mae’r organau hynny’n cael blaenoriaeth – hyd yn oed os nad ydynt bellach yn bod. Yn ddiweddar penderfynodd cwmni campfeydd David Lloyd beidio â chaniatáu i fenywod trans ddefnyddio ystafelloedd newid y merched heb fod ganddynt dystysgrif swyddogol (a chostus) i nodi iddynt newid rhyw. Bu yna fonllef o brotestiadau ar y gwefannau cymdeithasol gyda nifer o’r gymuned trans yn dweud eu bod yn llawer llai tebygol na’r cyffredin i ymgymryd â chwaraeon yn y lle cyntaf, am fod rhai unigolion yn bwrw sen arnynt, a bod cwmni proffesiynol fel David Lloyd yn sgil eu penderfyniad yn gwaethygu’r sefyllfa honno ac yn gwyntyllu casineb.

Felly mae bod yn ferch yn ymwneud â’r organau rhywiol y cawsoch eu geni â nhw, sut ry’ch chi’n edrych, a sut ry’ch chi’n gwisgo. Yn oes aur Facebook ac Instagram mae delwedd yn hynod bwysig a phwysau annioddefol ar yr ifanc, ac yn arbennig ar ferched ifanc, i gydymffurfio â siâp a maint arbennig. Fel y dywedodd ‘Ffion,’ sy’n ddwy ar hugain oed wrthyf, “mae e’n fath o “orthrwm” ar ferched ifanc.

Mae eraill, gan gynnwys, Ceinwen, sydd yn ei saithdegau cynnar, yn croesawi’r disgwyliad sydd ar fenywod i edrych fel menywod. Iddi hi mae gwisgo colur a dillad “benywaidd” yn rhywbeth positif, ac yn rhan annatod o sut mae’n diffinio ei hun.

I Carol, sydd hefyd yn ei saithdegau, ac sy’n fenyw trawsrywiol, mae ei pherthynas â dillad a cholur yn dra gwahanol, ac wedi newid hefyd dros amser. Yn y cyfnod cynnar o newid rhyw roedd gwisgo dillad merchetaidd, sodlau uchel a cholur yn ffordd i ddathlu ei rhywioldeb newydd. Dywed iddi “gofleidio popeth merchetaidd.” Erbyn hyn, dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’n gwisgo jîns a siwmperi, a sgidie fflat. A hynny er mwyn sicrhau nad yw’n creu rhyw fath o “garicatur” o’r hyn yw bod yn fenyw. Gan ei bod dros chwe throedfedd mae’n teimlo bod yna beryg o hyn, ac i bobl feddwl ei bod yn “camddefnyddio” ei statws newydd, ac nad yw’n ddiffuant.

Un peth mae Ffion, Ceinwen a Carol yn cytuno ynglŷn ag e, er gwell neu er gwaeth, yw bod sut ry’n ni’n edrych yn ein diffinio fel merched i’n hunain ac i eraill. Ond beth am sut ry’n ni’n ymddwyn ac ymateb? Ym marn rhai arbenigwyr mae ymennydd menywod a dynion yn wahanol i’w gilydd, a hynna’n esbonio pan fod dynion yn dda mewn mathemateg a gwyddoniaeth a menywod yn dda mewn ieithoedd a’r celfyddydau. Nawr ry’n ni gyd yn adnabod gwyddonydd neu beiriannydd o ferch, ac actor neu awdur o ddyn. Felly mae’r rhagosodiad yn amlwg yn or-syml ar y gorau. Mae’n fwy tebygol taw disgwyliadau cymdeithas draddodiadol sydd wedi sicrhau bod mwy o ddynion yn dilyn y gwyddorau a mwy o ferched yn arbenigo yn y celfyddydau.

Ac mae’r syniadau yma’n dal i fodoli. Does neb gwell na Carol, sydd wedi byw fel dyn ac fel menyw, i risialu hyn. “O fod yn ferch mae rhywun yn cael hawl i wrando ar broblemau pobl, i estyn llaw mewn cydymdeimlad, i ofalu am eraill, i wenu’n aml.  Wrth gwrs nid yw’r breintiau yma’n gyfyngedig i ferched, ond yn fy mhrofiad i nid yw’r nodweddion yma’n cael eu meithrin ymhlith bechgyn.”

Ond nid yw ei phrofiad fel merch yn fêl i gyd. “Ar y llaw arall fel menyw rwy wedi hen arfer â dynion yn fy nhrin fel petawn yn ffŵl pan fyddant yn trafod peiriannau. Ac mae dynion yn llawer mwy tebygol o fod yn anghwrtais i fenyw o yrrwr nac i ddyn arall.”

Un peth mae nifer o fenywod yn godi wrth drafod benywdod yw’n gallu i gario, geni a bwydo plant, y mislif a’r menopause, a bod y prosesau corfforol hyn yn rhan annatod o’n hunaniaeth fel merched. Mae eraill, fel Carol, sydd heb brofiad o hyn, yn sôn am bwysigrwydd y “chwaeroliaeth” – y cwlwm cryf sy’n clymu merched at ei gilydd, a’r reddf i fod yn gefn i ferched eraill.

Beth yw bod yn ferch yn ein cymdeithas ni felly? Fel mae Ffion, Ceinwen a Carol wedi amlygu mae’n golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Ry’n ni i gyd yn unigolion, yn unigryw. Wrth gwrs nid yw pob menyw, yn enwedig menywod sy’n byw mewn gwledydd llai datblygedig neu fwy ceidwadol, yn rhydd i fynegi eu hunaniaeth fel y mynnant. Beth bynnag y cyfyngiadau arnom ni yng Nghymru, a’r pwysau i gydymffurfio â delwedd  pobl eraill o wreictod, rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae modd trafod y pethau hyn, a’u herio. Mawr yw ein braint.

 

(Ers ysgrifennu’r erthygl hon mae’r Ffederasiwn Athletaidd wedi dyfarnu yn erbyn Semenya ac yn mynnu bod pob rhedwraig sydd am gystadlu ar rasys rhwng 400m a milltir yn rheoli lefelau testosteron anarferol o uchel. Ond mae’r ddadl yn parhau…)