Popeth yn “newid” i Dîm Padarn United

Cyfraniad o £1,500 gan Tai Ceredigion yn caniatau gwelliannau i ystafelloedd tîm Padarn United

Mererid
gan Mererid
Padarn United

Diolch i gyfraniad o £1,500 gan gronfa elusennol Tai Ceredigion, mae tîm pêl-droed Padarn United, yn gwneud gwelliannau i’w ystafelloedd newid.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol fod tîm pêl-droed Padarn United yn chwarae ar gaeau Llety Gwyn sydd rhwng dau set o drac rheilffordd, rhwng Llanbadarn a chaeau Blaendolau. Mae’r tîm yn hynod o lwcus i deulu Llety Gwyn am barhau i’w caniatáu i ddefnyddio’r cae.

Gyda chyfyngiadau Cofid-19 yn cael eu lleihau, aeth criw ati i wagio a chlirio’r ystafelloedd newid cyfredol, a phrynu nwyddau ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad y Clwb. Gobeithir y bydd y gwaith yn orffenedig cyn i’r tymor nesaf ddechrau.

Mae’r Clwb wedi ethol swyddogion newydd yn eu Cyfarfod Blynyddol nos Lun y 6ed o Orffennaf sef:

Cadeirydd – Paul Griffiths

Is-gadeirydd – Gareth Slack

Trysorydd – Rachel Evans

Ysgrifennydd – Mererid Boswell

Rheolwr y Tîm Cyntaf – Carl Thomas

Rheolwr yr Ail Dîm – Siôn Clifton

Nodwyd diolchiadau enfawr i David Jeremiah (cyn-ysgrifennydd) a Glenys Jones (cyn-drysorydd) am eu gwaith enfawr a bydd y ddau yn aros ar y pwyllgor fel swyddogion. Nodwyd diolch hefyd i reolwyr y tîm cyntaf a’r ail dîm, Paul James gyda help Chris Foster. Diolchwyd wrth gwrs i deulu Llety Gwyn am ganiatáu i ddefnyddio’r caeau, i Tai Ceredigion eu cyfraniad a hefyd i’r holl chwaraewyr a’r cefnogwyr. Bu’n dymor byr flwyddyn ddiwethaf ac mae’r timau yn edrych ymlaen am dymor hirach flwyddyn nesaf.

Os oes rhywun a diddordeb mewn chwarae i’r tim flwyddyn nesaf – dilynwch ni ar Twitter –

@PadarnU